Mae angen sawl peth ar Gymru. Ffordd o safon o’r de i’r gogledd. Ffyniant yn y sector breifat. Tîm pêl-droed o safon. Ar adeg pan mae arian yn brin mae’n rhaid dewis a dethol blaenoriaethau yn ofalus.
Efallai nad ydi cerflun draig 55 troedfedd o uchder ar gyrion Wrecsam ar frig y rhestr. Bob tro y mae darn mawr o gelf o’r fath yn cael ei awgrymu mae yna rywfaint o wrthwynebiad. Y cwyn pennaf bob tro yw ‘Beth yw’r pwynt?’
Wedi’r cwbl, beth oedd pwynt Tŵr Eiffel, ar y pryd? Y pyramidiau? Y Taj Mahal? Dim ond degawdau, os nad canrifoedd, yn ddiweddarach mae’r creadigaethau yma wedi eu gwerthfawrogi o ddifrif.
Mae diwylliannau yn mynd a dod a dim ond y rheini sy’n gadael rhywbeth ar eu hol sy’n cael eu cofio. Bydd y Cymry yn gadael corpws llenyddol sylweddol ond efallai na fydd cenedlaethau’r dyfodol yn siarad Saesneg heb son am Gymraeg.
Dyw ein prif ddigwyddiad diwylliannol, yr Eisteddfod Genedlaethol, ddim yn gadael unrhyw beth ar ei ôl (heblaw am glwt mwdlyd ar gaeau Pontcanna). Roedd yn arfer gadael cylch o gerrig ond mae’r rheini bellach yn blastig ac yn gallu cael eu cludo o le i le.
Mae Cymru yn wlad sy’n brin o unrhyw bensaernïaeth o bwys. Heblaw am adeiladau dinesig Caerdydd, a’r Llyfrgell Genedlaethol, ac wrth gwrs y cestyll, ac olion hen chwareli a phyllau glo, does yna ddim lot i’w weld yma. Fydd Canolfan y Mileniwm neu’r Senedd ddim yn parhau am ganrifoedd; dydyn nhw ddim mwy gwydn na thai gwydr.
Pwy fyddai’n cofio’r Eifftiaid pe baen nhw wedi gadael dim ond tywod? O ystyried fod ein diwylliant ni’n wynebu diflannu am byth o fewn y canrifoedd nesaf, mae angen ystyried beth fydd ein hetifeddiaeth ni i’r byd.
A beth am gerflun o Bendigeidfran wrth gastell Harlech? Neu yn sefyll ar fryn Twthill yng Nghaernarfon?
Weithiau mae angen i genhedlaeth anwybyddu synnwyr cyffredin ac adeiladu rhywbeth sy’n eu cynrychioli nhw, nid er eu mwyn eu hunain, ond er mwyn cenedlaethau’r dyfodol. Fel darn mawr o graffiti yn dweud ‘roedden ni yma’.