Andy King
Y chwaraewr canol cae, Andy King, a’r blaenwr, Hal Robson-Kanu, oedd dau o’r chwaraewyr prin a gafodd farc parchus am eu perfformiadau yn Iwerddon neithiwr.
Dyma farciau Golwg 360:
Wayne Hennessey – Nôl yn ddewis cyntaf i Wolves ac fe gafodd hanner cyntaf ddigon cyfforddus. Dau arbediad da ar ddechrau’r ail hanner ond wedyn aeth pethau o chwith. Doedd fawr ddim y gallai ei wneud am y ddwy gôl gyntaf ond ei safle’n wael ar gyfer y drydedd. (5/10)
Neal Eardley – Un sy’n cael ei le yn nhîm cyntaf Blackpool a chyfle mawr wrth gael ei ddewis i ddechrau yn lle Chris Gunter. Fe gollodd y bêl bob tro y cafodd hi a chael ei eilyddio ar yr hanner. (4)
Sam Ricketts – Gêm dawel heb gynnig cymaint ag arfer i’r ymosod. Mae angen mwy gan chwaraewr hŷn fel fo. (5)
Danny Collins – Cael ei ddewis i ddechrau yng nghanol yr amddiffyn a heb wneud llawer o’i le. (6)
James Collins – Fe wnaeth ymdopi’n ddigon cyfforddus â bygythiad corfforol Jon Walters yn yr hanner cyntaf ond ail hanner siomedig iawn gan y capten. Dylai fod wedi cau Gibson ynghynt cyn y gôl gyntaf ac roedd ei rwystredigaeth yn amlwg wrth droseddu ar ymyl y cwrt gan roi cyfle i’r Gwyddelod sgorio’r drydedd. (5)
Andrew Crofts – Mae’n cael tymor da gyda Norwich ac mae’n rhoi awch i ganol y cae. Gêm effeithlon ond heb fod yn effeithiol. (5)
David Vaughan – Y chwaraewr creadigol yng nghanol cae cyntaf Speed. Roedd yn brysur ac yn daclus iawn yn yr hanner cyntaf ond angen rhywun fel Ramsey wrth ei ochr. Ychydig ar fai am y gôl gyntaf gan roi gormod o le i Gibson. (5)
Andy King – Un arall sy’n cael tymor arbennig o dda gyda’i glwb, Caerlŷr ac yn haeddu dechrau. Mae’n cynnig bygythiad ymosodol o ganol cae, ond fel gyda gweddill y tîm, ail hanner tawel. (7)
Simon Church – Ergyd dda o bellter cyn yr hanner i brofi Shay Given, ac yna un arall hanner ffordd trwy’r ail hanner. Dim digon o bêl i greu argraff mewn safle anghyfarwydd ar yr asgell. (6)
Robbert Earnshaw – Edrych yn fwy bywiog nag ers sbel yn yr hanner cyntaf ond wedi’i ynysu’n rhy aml ar ben ei hun yn y llinell flaen a diflannodd o’r gêm wedi’r egwyl. (5)
Hal Robson-Kanu – Colli’r bêl yn syth gyda’i ddau gyffyrddiad cyntaf, ond setlo’n fuan wedyn ac yn cynnig bygythiad gwirioneddol. Bron ag ennill cic gosb yn yr hanner cyntaf ac yn anlwcus i gael ei eilyddio’n weddol gynnar yn y gêm. (7)
Eilyddion:
Chris Gunter (am Eardley ’45) – Edrych yn fwy cyfforddus na Eardley ond yn gyfan gwbl ar fai am ail gôl Iwerddon. (4)
Joe Ledley (am Vaughan ’61) – Bywiog a gweithgar ond dim creadigrwydd. (6)
Freddy Eastwood (am Robson-Kanu ’68) – Ymddangosiad cyntaf i Gymru ers amser ond roedd Cymru wedi colli siâp erbyn iddo gyrraedd y maes a dim cyfle i greu argraff. (5)
Jermaine Easter (am Earnshaw ’80) – Prin yn cyffwrdd y bêl felly anodd barnu. (5)
Lewin Nyatanga – (am Ricketts ‘ 82) – Eilydd hwyr a dim llawer o gyfle. (5)