Mae’n bron i fis bellach ers i Golwg 360 ddatgelu y bydd alcohol yn cael ei werthu ar faes Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf. Ond mae’r ddadl yn parhau, gyda rhai yn condemnio’r penderfyniad, a’r Urdd yn ei amddiffyn. Un o ohebwyr Golwg360, Ifan Dylan, sy’n edrych ar ddadl sy’n debyg o ddwysáu dros y misoedd nesaf…
Yn ôl cadeirydd Cyngor Bwrdd Eisteddfod yr Urdd, Tudur Dylan Jones, fe fydd rheolau “llym” yn cael eu gosod i sicrhau fod pobol ifanc yn gallu profi eu bod dros oed yfed, os ydynt yn ceisio prynu alcohol ar y maes.
Daeth ei sylw ar ôl i’r Cyngor benderfynu newid polisi’r ŵyl a chaniatáu i alcohol gael ei werthu ar faes yr Eisteddfod.
Mae’r penderfyniad wedi cythruddo llawer, gyda prif weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, Wynford Ellis Owen, ar flaen y gad yn gwrthwynebu’r penderfyniad.
Dadl Wynford Ellis Owen yw bod y penderfyniad yn ddechrau ar ryw fath o lwybr llithrig yn yr ŵyl, mewn gwlad sydd â thrafferthion enbyd gyda cham-drin alcohol. Mae’r ddadl yma yn un y mae’r Cyngor yn ei gwadu – neu yn ei hanwybyddu.
Yn wir, mae’n ymddangos fod y Cyngor yn credu taw cam bach eithaf diniwed yw’r penderfyniad.
Cynnig “glasied bach” i bobol gyda’u bwyd yw’r unig beth sy’n mynd i newid, yn ôl y Cyngor – ac roedd alcohol ar werth yng Nghanolfan y Mileniwm yn ystod yr ŵyl eleni ta beth. Ond, er hyn, nid diniwed mo’r penderfyniad, ac mae’r Cyngor wedi gwneud camgymeriad.
Mae’r ddadl y byddai rhai oedolion yn hoffi diod bach diniwed gyda’u cinio ar ôl bore caled o eisteddfota yn amherthnasol, ac yn colli pwynt Wynford Ellis Owen.
Beth sy’n rhaid cofio yw nad eisteddfod i’r ‘oedolion’ yw hi, ond eisteddfod i ieuenctid Cymru – ieuenctid o dan 18 oed gan fwya’ – sydd yn cael eu dylanwadu gan oedolion a’r sefyllfa o’u hamgylch.
Symboliaeth yw’r gair pwysig efallai; gyda’r trafferthion cymdeithasol sydd yn deillio o gam-drin alcohol mor amlwg yn ein cymunedau, ein carchardai a’n hysbytai, mae’r angen am sefydliad sy’n symbol o egwyddor gadarn ac sy’n dangos esiampl yn bwysicach nawr nag erioed.
Fyddai hi ddim yn well petai sefydliad sy’n rhan o fagwraeth cymaint o ieuenctid yn aros yn sobr?