Mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, yn dal i obeithio fod modd achub gwaith Alwminiwm Môn ger Caergybi.
Fe fydd ef a’r Aelod Seneddol lleol, Albert Owen, yn cwrdd â chynrychiolwyr y perchnogion, RTZ a Kaiser, yn Llundain yn ddiweddarach heddiw.
Ddiwedd yr wythnos ddiwetha’ y daeth y newyddion y bydd 250 o bobol yn colli eu swyddi wrth i’r gwaith roi’r gorau i gynhyrchu.
Roedd 140 o ddiswyddiadau gwirfoddol eisoes wedi eu cyhoeddi – yn ôl y cwmni, maen nhw’n gorfod rhoi’r gorau iddi am fod cytundeb i gael trydan rhad yn dod i ben fis Medi. Dim ond tuag 80 o weithwyr fydd ar ôl, yn prosesu metal sy’n dod o lefydd eraill.
“Esgus”
Mae Albert Owen a gwleidyddion lleol eraill wedi awgrymu mai esgus yw hynny a fod y penderfyniad wedi cael ei wneud gan RTZ, sy’n gwmni rhyngwladol anferth ac yn berchen ar 51% o’r busnes.
Roedd y llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd wedi cynnig £48 miliwn tros y pedair blynedd nesa’ i helpu’r cwmni tros ei argyfwng, ond doedd hynny ddim yn ddigon, medden nhw.
Mae’r cwmni hefyd wedi dechrau ar y broses o wneud cais i godi gwaith trydan bio-mas ger y safle.
Fe ddywedodd Peter Hain wrth Radio Wales fod “llygedyn o obaith” o achub y gwaith.