Gwefan chwaraeon y BBC
Ydi diffyg darllenwyr yn rheswm da dros gael gwared ar rywbeth? Dyna’r penbleth oedd yn wynebu’r BBC, dwi’n siŵr, wrth iddyn nhw benderfynu cael gwared ar eu safle chwaraeon Cymraeg.
Mewn datganiad dywedodd y gorfforaeth ei bod hi’n “glir bod galw am gynnwys chwaraeon ar-lein yn yr iaith Gymraeg yn isel iawn,” ac mai dyna’r rheswm pam fod y gwasanaeth yn cau.
Dyna’r un rheswm mae’r BBC yn ei roi am beidio â chynnwys newyddion Cymraeg o du hwnt i Gymru ar eu wefan. (Er eu bod nhw am ryw reswm yn gwneud hynny ar y radio, gan wrth-ddweud y ddadl nad oes galw amdano braidd.)
Y pryder sydd gen i ydi bod diffyg darllenwyr, gwylwyr neu wrandawyr yn ddadl gref dros gael gwared ar y rhan fwyaf o bethau Cymraeg – nofelau, cylchgronau, S4C, albymau cerddoriaeth, capeli, eisteddfodau…
Rydw i’n cytuno bod angen rhoi pwyslais ar faint sy’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg, a cheisio denu cymaint o bobol â phosib.
Ond os nad ydi rywbeth yn denu’r defnyddwyr, ai rhoi’r ffidil yn y to yw’r ateb ynteu gweld a oes lle i wella?
Roedd yn amlwg bod y safle chwaraeon yn dioddef o ddiffyg buddsoddiad. Rydw i wedi cael cip ar y ‘Wayback Machine’ a gweld nad ydi diwyg y safle wedi ei diweddaru ers 2005.
Mae hynny’n oes yn amser y rhyngrwyd, ac yn waeth byth o ystyried bod y safle chwaraeon Saesneg ymysg y gorau yn y byd.
Mae’n amlwg bod yna farchnad ar gyfer chwaraeon. Mae yna bobol yn y byd sydd eisiau eu newyddion chwaraeon yn y Gymraeg, yn yr un modd ag y mae yna bobol sydd eisiau eu newyddion am Gymru, Prydain a’r byd yn y Gymraeg.
Diffyg buddsoddiad, nid diffyg diddordeb, sydd wedi lladd y wefan. Cyn tynnu’r plwg, beth am droi’r switsh ymlaen yn y wal?