Un pennawd sydd wedi dal fy llygad yr wythnos yma ydi bod banciau wedi penderfynu cynnig morgeisi llai i deuluoedd gyda phlant.

Mae Nationwide, er enghraifft, yn cynnig morgeisi rhwng 10% a 20% yn llai i deuluoedd sydd gyda phlant nag y bydden nhw yn ei roi i gyplau di-blant.

Mae hynny’n dipyn o ergyd. Byddai cwpwl heb blant oedd yn ennill £24,000 yr un yn gallu benthyg £207,000 o Nationwide. Ond os oes gyda nhw ddau o blant fe fyddai’r cyfanswm yn disgyn i £174,200.

Beth sy’n ychwanegu halen i’r briw braidd ydi fod angen morgeisi mwy o lawer ar deuluoedd sydd gyda phlant – mae angen rhywle i’w cadw nhw i gyd wedi’r cwbl.

Mae rhesymeg y banciau yn gwneud synnwyr ar yr olwg gyntaf – wedi’r cwbwl, mae plant yn bethau bach costus. Mae pob plentyn yn costio £200,000 erbyn eu bod nhw’n 18 oed, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd.

Ond beth mae’r adroddiad yn ei anwybyddu ydi bod cyplau sy’n gwario’i harian ar blant ddim yn gwario’u harian ar bethau eraill – gwyliau i wlad bell neu nosweithiau allan yn y dafarn, er enghraifft.

Rydw i’n amcangyfrif fod y crebachiad sylweddol ym mywyd cymdeithasol rhiant yn arbed o leiaf £200,000 dros gyfnod o 18 mlynedd.

Cyfrifoldeb

Aha, meddai’r banciau, nid dyna’r pwynt. Os nad ydi person di-blant yn gallu talu ei forgais mae o’n gallu rhoi’r gorau i wario ar arian ar gwrw neu ar wyliau i wlad bell.

Does gan gwpwl sydd gyda phlant ddim dewis ond gwario arian arnyn nhw (heblaw am eu rhoi nhw i gael eu mabwysiadu wrth gwrs).

Serch hynny alla’i dal ddim cydweld â’r banciau. Fe fydden i’n synnu pe bai teuluoedd sydd â phlant yn llai dibynadwy wrth dalu eu morgeisi.

Un peth sy’n dod â bod yn rhiant yw teimlad mawr o gyfrifoldeb dros rywun heblaw amdanat ti dy hun.

Byddwn i’n fodlon betio fy morgais bod rhieni yn fwy darbodus a gofalus gyda’u harian na chyplau di-blant, am eu bod nhw’n gwybod y byddai colli eu tŷ yn ergyd mawr i’r plant hefyd.

Dywedodd ymgynghorydd ariannol wrtha’ i unwaith bod cael ryw faint o ddyled ar gerdyn credyd yn well yng ngolwg y banciau na pheidio cael cerdyn credyd o gwbl – mae’n dangos bod y cwsmer yn gallu ysgwyddo rywfaint o gyfrifoldeb.

Yn yr un ffordd, dylai cael plant argyhoeddi banciau eich bod chi’n barod am forgais. Wedi’r cwbwl mae sortio’r morgais yn llawer haws na sortio’r holl glips bach ffidli na ar gewyn babi.