Fe chwaraeodd Rhuthun eu gêm orau o’r tymor gyda buddugoliaeth pwynt bonws 33-0 yn erbyn Bae Colwyn yn Adran Un y Gogledd.
Y blaenasgellwr Clwyd Jones oedd y cyntaf i sgorio cais gyda’r cefnwr Sion T Roberts yn trosi.
Fe aeth Kyle Davies yn agos i sgorio i Ruthun ond fe gafodd ei daclo ar y llinell. Er gwaethaf hynny fe sgoriodd Jones ei ail gais o’r gêm ar ôl i gyfuno da ymysg y cefnwyr a’r blaenwyr.
Fe ddaeth trydydd cais y tîm cartref i’r canolwr Ben Syme yn dilyn gwaith da gan yr wythwr Lee Pope a’r bachwr Joe Mault.
Cyflymder
Fe ddaeth y pedwerydd cais â phwynt bonws y Gleision oddi ar gic cosb wrth i gyflymder Davies sicrhau nad oedd neb yn gallu ei atal rhag croesi’r llinell gais. Fe
lwyddodd Roberts gyda’r trosiad i sicrhau bod Rhuthun ar y blaen 26-0 ar yr egwyl.
Fe aeth yr ymwelwyr lawr i 14 dyn yn gynnar yn yr ail hanner pan anfonwyd eu hwythwr i ffwrdd am ymladd.
Cafodd gweddill y gêm ei reoli’n llwyr gan chwiban y dyfarnwr ac fe aeth llif chwarae’r hanner cyntaf i golli.
Fe geisiodd y Bae defnyddio eu ciciau cosb i ganfod yr ystlys er mwyn ennill tir, ond roedden nhw’n colli’r meddiant yn syth gyda llinell siomedig.
Fe sgoriodd y Gleision pumed cais o symudiad pasio da a gychwynnodd 35 llath allan gan ryddhau Roberts i groesi’r llinell.
Adrodiad gan Lois Jones.