Cyhoeddwyd heddiw y bydd meddygon arbenigol yn cael eu penodi er mwyn gwella’r gwasanaeth i bobol gydag anhwylderau bwyta yng Nghymru. Dyma sylw gan Llinos Dafydd, gohebydd cyffredinol cylchgrawn Golwg…
Mae yna rywbeth yn digwydd i geisio taclo anhwylderau bwyta yng Nghymru, o’r diwedd. Mae e’ wedi bod yn salwch cudd ers gormod o amser, felly dw i, fel un a wnaeth ddiodde’ o anorecsia fy hun, yn estyn fy mreichiau i gofleidio’r cynllun newydd.
O fy mhrofiad i, dydy meddygon teulu ddim cweit yn deall y salwch yn iawn – a phan rydych chi’n diodde’ o anhwylderau bwyta, mae hynny’n arwain at broblemau dyfnach, meddyliol. Yn sgil hynny, rydych chi’n medru twyllo pobol – a digon hawdd, felly, yw darbwyllo’r doctoriaid, eich bod yn hollol iach.
O dan y cynllun newydd, bydd dau dîm – un yn y gogledd a’r llall yn y de – yn gweithio gyda meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd meddwl.
Byddan nhw wedyn, gobeithio, yn adnabod yr holl driciau ymhlith y rhai sy’n dioddef – y twyllo a’r sicrhau cyson nad oes yna broblem o gwbwl.
Gobeithio y bydd hyn yn medru cynnig gwellhad i gymaint o bobol â phosib sy’n brwydro drwy afeichydon bwyta . Mae rhai’n llwyddo i guro’r afiechyd, ac eraill yn dirywio dan y straen, a rhai’n marw.
Mae mor bwysig i gael yr arbenigedd yma ar stepen ein drws, yn lle gorfod teithio i Loegr. Mae mwy a mwy yn diodde’, ac mae’n fath o broblem sydd wastad yn mynd i fod yno – hyd yn oed os ydy rhywun wedi ei goncro. Mae e’ yno’n llechu – a daw yn ôl i frathu dioddefwyr dro ar ôl tro.
Hen bryd yw sicrhau nad yw anorecsia a bwlimia yn ennill y dydd.