Mae Ryan Giggs wedi bod yn seren fytholwyrdd yn nhimau gorau Syr Alex
Owain Schiavone sy’n talu teyrnged i un o reolwyr gorau hanes pêl-droed wrth iddo ddathlu 25 mlynedd wrth y llyw yn Man Iw…
Gan fod pawb arall wrthi, ac fel cefnogwr Man Iw fy hun, fedrwn i ddim peidio ag ysgrifennu pwt am Syr Alex Ferguson y penwythnos yma.
Dydd Sul, bydd Fergie yn dathlu chwarter canrif yn reolwr tîm United. Mae wedi sefydlu ei hun yn un o’r rheolwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes y gêm.
Yr ystadegau pwysig – 12 teitl Uwch Gynghrair Lloegr; 5 cwpan FA Lloegr; 4 Cwpan y Gynghrair; 2 deitl Cynghrair y Pencampwyr a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.
Mae Ferguson wedi rheoli tîm Manchester United mewn 1,409 o gemau, a dim ond 247 o’r rheiny y mae wedi eu colli.
Mae ei record fel rheolwr yn syfrdanol a does neb arall yn dod yn agos ato yn hanes pêl-droed Lloegr, tra mai ychydig iawn sy’n gallu cystadlu unrhyw le yn y byd.
Beth sy’n anodd i’w gredu erbyn hyn yw fod Yr Albanwr yn agos iawn i golli ei swydd ym 1990. Mae llawer yn credu mai gôl Mark Robins yn erbyn Nottingham Forest yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA achubodd ei groen – aeth United ymlaen i ennill y gwpan, sef y tlws cyntaf o nifer i’r rheolwr.
Yn yr oes sydd ohoni, ychydig iawn o reolwyr sy’n para mwy na phum mlynedd mewn swydd, heb sôn am bump ar hugain! Mae Ferguson yn enghraifft prin iawn.
Penderfyniad
Un o nodweddion amlycaf Ferguson yw ei benderfyniad a’i awydd i wella a phrofi mwy o lwyddiant. Fe fydd yn 70 oed ym mis Rhagfyr ond mae’r penderfyniad yna’n dal i lifo trwy ei wythiennau.
Mae gwytnwch yn nodwedd amlwg arall o’i gymeriad. Yn ddiweddar, ar ôl colli’n drwm i Manchester City ar dir sanctaidd Old Trafford, fe ddisgrifiodd Ferguson y diwrnod fel y gwaethaf yn ei yrfa’n rheolwr.
Er hynny, sawl gwaith mae’r rheolwr wedi adfer ei dîm o sefyllfa o’r fath? Sawl gwaith mae cefnogwyr timau eraill a sylwebyddion wedi datgan fod y dyddiau da ar ben tra bod Ferguson yn brysur yn cynllunio sut i ailadeiladu tîm newydd.
Yn ystod ei gyfnod fel rheolwr, mae’n deg dweud ei fod wedi llwyddo i adeiladu, neu ailadeiladu, o leiaf tri tîm ‘gwych’:
i) Y tîm enillodd y gynghrair am y tro cyntaf yn nhymor 1992-93
ii) Y tîm enillodd Gynghrair y Pencampwyr ym 1999
iii) Y tîm gurodd y ‘bygythiad newydd’, Chelsea, i ennill Cynghrair y Pencampwyr am yr eilwaith yn 2008
Wrth gwrs, roedd un Cymro, Ryan Giggs, yn y tri tîm!
A fyddech chi’n betio yn erbyn ei weld yn ailadeiladu’r tîm eto ar ôl y chwalfa yn erbyn City?
Yn ganolog i lwyddiant Ferguson mae ei bwyslais ar ddatblygu talent ifanc, yn ogystal â phrynu’n graff yn y farchnad. Er ei fod wedi gwneud rhai camgymeriadau mawr wrth arwyddo chwaraewyr, mae llawer iawn mwy o enghreifftiau llwyddiannus.
Beth sy’n cael llai o sylw yw ei allu i wybod pryd i werthu chwaraewr – roedd yn gwybod yn union pryd roedd yn amser i gael gwared ar sêr fel Paul Ince, Andrei Kanchelskis ac yn fwy diweddar Christiano Ronaldo. Does ganddo fawr o feddwl o egos mawr – does neb yn fwy na’r clwb.
Y gorau a’r gwaethaf
Eto, gan fod pawb arall wrthi, dyma dîm gorau cyfnod Ferguson yn fy marn i:
- Peter Schmeichal
- Gary Neville
- Denis Irwin
- Jaap Stam
- Gary Pallister
- Roy Keane
- Eric Cantona
- Paul Scholes
- Ruud van Nistelrooy
- Christiano Ronaldo
- Ryan Giggs
A jyst i ddangos nad ydw i’n gwbl un llygeidiog, dyma’r XI gwaethaf hefyd:
- Massimo Taibi
- Pat McGibbon
- Colin Gibson
- William Prunier
- Eric Djemba-Djemba
- Kleberson
- Juan Sebastian Veron
- Karel Poborsky
- Bebe
- David Bellion
- Jordi Cruyff