Mae gwefan newyddion BuzzFeed wedi cael ei beirniadu’n hallt am gyhoeddi stori yn bychanu’r Gymraeg.

Roedd Twitter yn llawn ffraeo tanllyd brynhawn ddoe, wedi i’r wefan gyhoeddi darn dan yr enw “Ai Pentref yng Nghymru yw hyn, neu ai jest fi yw sy’n sgwennu nonsens?”.

Cwis yw’r stori yn ei hanfod, ac ymhlith yr enwau go iawn – a ffug – sydd ynddo mae ‘Rhosllannerchrugog’ a ‘Tyuafshcgvdbkl-nslksfdjhagjgk-hlwquyeuodias’.

Roedd Huw Edwards, y darlledwr BBC, ymhlith y rheiny a rannodd eu siomedigaeth, ac mewn neges sydd bellach wedi ei ddileu holodd: “Oes unrhyw syndod bod BuzzFeed wedi mynd i’r clawdd?”

Daeth i’r amlwg rai dyddiau yn ôl bod BuzzFeed yn mynd i gau ei swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig ac Awstralia. Yn Efrog Newydd mae pencadlys y cwmni.

Newidiadau

Mae awdur y darn, Natasha Jokic, o’r Deyrnas Unedig yn wreiddiol.

Mae enw ei stori bellach wedi ei newid i “Allwch chi ddyfalu pa bentrefi sydd yn llefydd go iawn yng Nghymru a pha rhai sydd yn ffug?” ond mae’n parhau’r un peth yn ei hanfod.

Yn sgil beirniadaeth gan newyddiadurwyr BuzzFeed, mae Huw Edwards wedi dileu ei neges wreiddiol ar Twitter ac wedi postio sylw newydd.

“Dyma neges newydd yn lle’r trydariad cynt ynghylch y darn tsiêp yma achos roedd rhai wedi ei ystyried (a hynny’n anghywir) yn ymosodiad ar dîm gwych BuzzFeedUK,” meddai.

“Ond dw i ddim yn cefnu ar y prif bwynt. Ddylai BuzzFeed ddim bod yn annog atgasedd at ddiwylliannau lleiafrifol.”