Mae’r GIG yng Nghymru yn parhau i fod ar agor i bawb sydd ei angen, meddai Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, yn sgil pryderon a godwyd gan feddygon bod cleifion yn “ofni” gweld eu meddyg teulu neu ymweld â’r ysbyty yn ystod argyfwng coronafeirws.
Dywedodd Dr Goodall nad oedd pandemig Covid-19 wedi llethu’r Gwasanaeth Iechyd a’i fod yno o hyd i bobl sydd angen gofal brys.
Datgelodd Llywodraeth Cymru fod nifer y bobl sy’n mynd i adrannau achosion brys yng Nghymru wedi gostwng hyd at 50% ers dechrau pandemig y coronafeirws.
Dywedodd Dr Goodall bod derbyniadau brys i ysbytai wedi gostwng tua 30%, tra bod 10% yn llai o bobl yn cael eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans. Roedd “gweithgarwch” meddygon teulu hefyd wedi gostwng hyd at 25%.
“Mae gofal brys a chritigol yn parhau os oes firws o’n cwmpas ai peidio,” meddai.
“Rydyn ni’n symud i gyfnod lle mae’n rhaid i ni gydbwyso cyfrifoldebau ymateb i’r firws, a’r cyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod pobl sydd angen gofal a thriniaeth yn gallu ei gael.
“Rwy’n credu bod angen i ni adolygu sut rydym yn cyflwyno hyn. ”
Dywedodd Dr Goodall ei fod yn poeni am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau canser ond hefyd yn credu eu bod yn dechrau codi.
“Mae nifer y bobl sy’n cael eu hychwanegu at y rhestr aros ddwywaith y lefel a welwyd dim ond tair wythnos yn ôl, ond yn gyffredinol, mae’r nifer yn dal i fod yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol,” meddai.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi cynllun ymadael coronafeirws ar gyfer Cymru ddydd Gwener ond dywedodd Dr Goodall, er bod niferoedd yr achosion newydd yn “sefydlogi a lleihau”, ei fod yn poeni bod “gwir bosibilrwydd” o ail uchafbwynt heintiau, a’i bod yn bosib y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru “gymryd ambell gam yn ôl” ac ailgyflwyno’r mesurau cloi yn y dyfodol.