Mae Airbus yn cael ei daro gan yr “argyfwng dwysaf i’r diwydiant awyrennau ei weld erioed,” meddai’r Prif Weithredwr Guillaume Faury.

Daw ei sylw wedi i’r gwneuthurwyr awyrennau ddatgelu eu bod nhw wedi colli dros £400 miliwn yn ystod y tri mis cyntaf o’r flwyddyn hon.

Mae’r galw am hediadau wedi chwalu oherwydd y pandemig, gyda chwmnïau awyrennau yn gohirio y rhan fwyaf o’u hediadau ac unrhyw archebion am awyrennau newydd.

Dechrau cadarn

“Fe gawson ni ddechrau cadarn i’r flwyddyn ar yr ochr fasnachol a diwydiannol” meddai Guillaume Faury.

“Ond rydyn ni’n gweld effeithiau Covid -19 yn ymddangos drwy’r rhifau yn gyflym iawn.

“Rydyn ni yng nghanol yr argyfwng dwysaf i’r diwydiant awyrennau ei weld erioed.

“Rydyn ni’n gweithredu sawl mesur i sicrhau dyfodol Airbus.

“Mae angen i ni weithio fel diwydiant er mwyn adnewyddu hyder ein teithwyr mewn teithiau awyr er mwyn bodoli gyda’r pandemig yma.

Gohirio 24 o awyrennau newydd

Yn ôl Guillaume Faury, mae nhw’n canolbwyntio ar wydnwch eu cwmni er mwyn sicrhau parhad eu busnes, ond yn ddiweddar mae Airbus wedi cyhoeddi y byddan nhw’n torri gwneuthuriad awyrennau i lawr i draean o’r hyn oedd yn cael ei wneud cyn yr argyfwng.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, cadarnhaodd Airbus y byddan nhw’n rhoi 3,000 o weithwyr ym Mrychdyn ar furlough, ac mae EasyJet wedi cytuno gyda Airbus i ohirio 24 o awyrennau newydd.

Ddydd Mawrth, Ebrill 28, datgelodd perchennog British Airways eu cynlluniau i ddiswyddo 12,000 o weithwyr, sydd yn cyfateb i mwy ‘na chwarter eu staff.