Mae banc bwyd wedi ei sefydlu yn Nefyn am y tro cyntaf erioed mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws.

Menter gymunedol yw’r banc bwyd ym Mhen Llŷn,  sy’n annibynnol o’r cyngor tref a chyngor sir, ac mae’n dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr a rhoddion.

Un o’r pump a sefydlodd y grŵp yw cynrychiolydd Nefyn ar Gyngor Sir Gwynedd, Gruffydd Williams, ac mae yntau’n egluro eu bod yn gwasanaethu ardal ehangach na’r dref yn unig.

Mae’r cynghorydd sir yn dweud bod 50 o bobol yn Nefyn, Morfa, a Dinas eisoes yn derbyn bwyd ganddyn nhw.

Aethon nhw ati i sefydlu’r fenter, meddai,  yn rhannol oherwydd bod banc bwyd ym Mhwllheli – a oedd yn arfer darparu i bobol ei ward – wedi cau. Ond mae’n dweud mai’r prif gymhelliant yw COVID-19.

“Dychrynllyd”

Mae’r ffaith fod disgwyl i bobol hunan-ynysu yn eu cartrefi yn golygu bod rhai o drigolion Nefyn yn ei chael yn anodd cael at fwyd a diod.

A dyna pam bod angen y banc bwyd wedi ei sefydlu yno, yn ôl y Cynghorydd Gruffydd Williams.

“Mae o’n deillio mwy na heb o’r ffaith ein bod ni’n bell i ffwrdd o’r archfarchnadoedd,” meddai. “Mae gen ti gnewyllyn mawr ohonyn nhw yn sownd mewn tŷ.

“Fedri di ddim cael deliveries fel oeddach chdi’n cael, oherwydd bod yna giw mawr anferthol, oherwydd mae pobol yn rhy paranoid i fynd i’r archfarchnadoedd yma.

“Felly mae galw yn dod i mewn yn hynny o beth. Mae gen ti bobol sydd wedi colli zero hour contracts, a phobol hunangyflogedig – merched torri gwallt, er enghraifft.

“Ac mae lot o’r rheiny’n ferched sengl efo plant. Mae’r knock on effect yn mynd i fod yn ddychrynllyd. Hira yn byd rydan ni’n mynd i fod yn y lockdown yma, hira’n byd mae o’n mynd i frathu.”

Arian

Hyd yma mae’r grŵp wedi derbyn oergell a “rhywfaint o stoc” gan Gyngor Gwynedd, meddai Gruffydd Williams, ac mae’n rhwystredig nad oes rhagor o gymorth gan y cyrff etholedig.

Roedd wedi disgwyl y byddai arian ar gael, ac mae’n dweud bod yna “bob math o rwystredigaethau”.

“Mae cynghorau tre a phlwy [yn eistedd ar] ar gymaint o gyfalaf, mae’n anhygoel,” meddai. “A fedri di ddim defnyddio fo. Fedri di ddefnyddio £8.22 [am bob etholwr o fewn ardal y cyngor tref] y flwyddyn ar gyfer dibenion fatha hyn.

“Mae rhai o’r cynghorau yma yn eistedd ar ddegau o filoedd – mwy na beth sydd angen fel arian wrth gefn – ac mae’n anfoesol nad ydy Llywodraeth Cymru wedi symud ar hyn.

“Dw i wedi bod yn pwyso arnyn nhw. Dw i wedi cael ymateb yn ôl gan Lywodraeth Cymru lle oedden nhw mwy na heb yn golchi’u dwylo o’r sefyllfa…

“Maen nhw’n dweud bod yr £8.22 yna’n ddigonol. Blydi hel. Mae’r peth yn anhygoel!”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Dydyn ni ddim yn ymwybodol o unrhyw ohebiaeth ddiweddar gan y Cynghorydd Williams ar y mater hwn.

“Mae’n gywir i ddweud bod cyfyngiadau, yn ôl y gyfraith, ar y swm y gall cynghorau cymuned ei wario ar sefydliadau lleol er lles yr ardal…

“Y terfyn gwariant yn 2020-21 yw £8.32 am bob etholwr, nid fel cyfanswm, felly byddai hynny’n caniatáu mwy o gymorth ariannol o lawer nag y mae’n ei awgrymu. Wrth gwrs, lle’r cyngor yw gwneud ei benderfyniadau ei hun ar wariant o fewn y terfynau hyn.”