Cafodd y frigâd dân ei galw i fwthyn yng Nghegidfa ger Y Trallwng ychydig wedi hanner nos fore Mawrth (Ebrill 14).

Dywedodd y gwasanaeth tân fod y bwthyn wedi cael ei “ddinistrio’n llwyr” gan y fflamau.

Bu criwiau o’r Trallwng, Llanfyllin, Trefaldwyn a’r Amwythig wrthi am ddwy awr yn diffodd y tân.

Roedd yr eiddo yn wag yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Daw hyn wrth i aelod o gyngor gweithredol Undeb y Brigadau Tân rybuddio am brinder staff yn ystod pandemig coronafeirws.

“Ar hyn o bryd mae gennym 178 aelod o staff yn hunan ynysu a’r ofn yw bod y niferoedd hyn yn mynd i gynyddu,” meddai Cerith Griffiths wrth siarad ar BBC Radio Wales.

“Rwyf am bwysleisio nad y’n ni eisiau profion o flaen gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn flaenoriaeth.

“Ond os gallwn ni gael profion i staff sy’n hunan ynysu a darganfod a ydyn nhw’n glir ai peidio, gallan nhw ddychwelyd i’r gwaith yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.”