Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu dros £18 miliwn i gefnogi sectorau y diwydiannau creadigol, diwylliant a chwaraeon yn ystod y pandemig coronafeirws
meddai Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Y bwriad yw darparu cymorth i’r sectorau bregys mewn ymdrech i “achub busnesau a swyddi,” meddai Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Caiff y cyllid ei ddarparu drwy Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru ac mae’n cynnwys:
- Cronfa Dycnwch y Celfyddydau gwerth £7 miliwn o dan arweiniad Cyngor y Celfyddydau Cymru i gefnogi artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol.
- Cronfa Cydnerthedd Chwaraeon gwerth £8 miliwn gaiff ei ddefnyddio i gefnogi clybiau chwaraeon a rhwydweithiau partner sefydledig.
- Cronfa gwerth £1miliwn i Cymru Greadigol fydd yn rhoi cymorth i leoliadau cerddoariaeth lleol i ymateb i bwysau ar unwaith (hyd at £25 mil i bob busnes)
- Cronfa Cydnerthedd Diwylliannol gwerth £1 miliwn ar gyfer amgueddfeyddd, casgliadau, gwasanaethau cadwraeth, archifau a llyfrgelloedd cymunedol
- Cronfa Cymorth Brys gwerth £750 mil i gefnogi sefydliadau chwaraeon, amgueddfeydd a threftadaeth.
- Adnoddau Llyfrgell Digidol gwerth £250 mil er mwyn galluogi llyfrgelloedd cyhoeddus i gynnig adnoddau digidol ychwanegol i’r cyhoedd ac yn rhoi adnoddau i bobl ddarllen ac ymgysylltu ag eraill wrth hunan-ynysu.
“Rydyn ni wedi gwrando ar nifer o’n rhanddeiliaid o fewn y sectorau bregus hyn,” meddai’r Dafydd Elis-Thomas.
“Rydyn ni yn deall bod rhain yn amseroedd ansicr i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru ac yn cydnabod yn llawn yr heriau enfawr nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth bosibl i gefnogi creadigrwydd a’r bartneriaeth sydd i’w weld o fewn y sector.”