Flwyddyn ers i Elidyr Glyn ennill Cân i Gymru gyda ‘Fel hyn ‘da ni fod’, mae’r canwr a’i fand Bwncath yn cyhoeddi albym o ganeuon roc gwerinol sy’n falm i’r enaid yn y dyddiau du sydd yn ein hwynebu.

Ar un o draciau mwya’ hyfryd a hiraethus y casgliad, ‘Tonnau’, mae’r canwr yn myfyrio am natur cariad:

‘Mae cariad fel y moroedd

Sydd yn troi’n gymylau glaw

Yna’n disgyn ar fynyddoedd

Ac yn casglu yn y baw

Cyn llifo i lawr y creigiau