Mae pwysau cynyddol ar Weinidogion i gynyddu’r gyfradd brofi ar gyfer coronafeirws, wedi marwolaeth y plentyn cyntaf yng ngwledydd Prydain o’r clefyd, bachgen 13 oed yn Llundain.
Bu hefyd farw person 19 oed heb unrhyw gyflyron meddygol o’r coronafeirws wrth i’r Deyrnas Unedig weld y cynnydd mwyaf o ddydd i ddydd yn nifer y marwolaethau – cynnydd o 381 yn y 24 awr flaenorol i gyfanswm o 1,789.
Nid yw oedrannau dioddefwyr yn cael eu rhyddhau fel mater o drefn yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon.
Rhwystredigaeth staff y Gwasanaeth Iechyd
Mae staff y GIG wedi mynegi rhwystredigaeth eu bod yn cael eu gorfodi i ynysu pan mae eu hangen fwyaf, am nad oes profion ar gael i ddangos a ydynt yn glir o’r clefyd.
Ar hyn o bryd, mae tua 8,000 o brofion y dydd yn cael eu cynnal, er bod Gweinidogion wedi honni’n flaenorol eu bod wedi cyrraedd targed o 10,000 y dydd.
Bellach, ni ddisgwylir cyrraedd y targed o 25,000 o brofion y dydd tan ddiwedd mis Ebrill.
Mewn cyferbyniad, mae’r Almaen yn profi tua 70,000 o bobol y dydd.
Nifer y marwolaethau yn uwch nag ystadegau ysbytai
Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos y gallai nifer y marwolaeth fod yn uwch nag y mae ystadegau ysbytai yn ei awgrymu.
Edrychodd y Swyddfa Ystadegau ar bob marwolaeth lle y crybwyllwyd Covid-19 fel ffactor, ac mae’r ffigurau yn dangos bod 24% yn fwy o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 o gymharu â data o GIG Lloegr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer yr un cyfnod.
Mae ffigurau ysbytai yn cynnwys pobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19, tra bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys pob marwolaeth lle sonnir am Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth, hyd yn oed os mai tybiaeth yn unig yw hynny.