Mae pedwar o ddynion wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad i lofruddiaeth Lyra McKee yn Derry.
Cafodd y newyddiadurwraig ei saethu’n farw ar Ebrill 18 y llynedd wrth iddi adrodd am annhrefn yn y ddinas.
Cafodd y dynion 20, 27, 29 a 52 oed eu harestio’n unol â’r Ddeddf Frawychiaeth fore heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 11), yn ôl yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon.
Maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa yn Belffast.