Mae’r Aelod Cynulliad annibynnol Neil McEvoy wedi cyhoeddi y bydd yn lansio plaid newydd yn y gwanwyn.

Welsh National Party (WNP) yw enw Saesneg y blaid hon, mi fydd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd ar Ebrill 3, ac mae’n gobeithio herio seddi ledled Cymru yn etholiad Cynulliad 2021.

Mae’r cais am enw Cymraeg y blaid ‘Plaid Genedlaethol Cymru’ – sef enw gwreiddiol Plaid Cymru – yn dal i fod dan ystyriaeth gan y Comisiwn Etholiadol.

Yn ôl Neil McEvoy, mae’r WNP yn gobeithio “rhoi pŵer yn ôl yn nwylo’r bobol” a hynny ar “lefel yr unigolyn, cymuned, ac yn genedlaethol”.

“Sefyll ar ein traed”

“Rydym mewn sefyllfa lle’r ydym wedi cael yr un dwy blaid yn llywodraethu Cymru ers dwy ddegawd,” meddai arweinydd yr WNP.

“Maen nhw wedi colli cysylltiad yn llwyr â’r cyhoedd, ac felly mae’n rhaid i gyfundrefn Llafur/Plaid Cymru ddod i ben.

“Mae gennym gyfle yn awr i sefyll ar ein traed ein hunain, i gael plaid sydd yn adlewyrchu’r Gymru fodern yr ydym yn byw ynddi, ac i weld Cymru’n esgyn i’r llwyfan rhyngwladol lle ddylai hi fod.”

Neil McEvoy

Cafodd yr Aelod Cynulliad ei wahardd o Blaid Cymru ym mis Mawrth 2018 am – yng ngeiriau’r Blaid –   “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid”.

Byth ers hynny mae wedi parhau’n Aelod Cynulliad annibynnol, ond yn etholiad Cynulliad 2021 mae disgwyl iddo herio etholaeth Gorllewin Caerdydd yn ymgeisydd WNP.