Mae Llywodraeth Prydain yn trefnu’r awyren olaf i ddod â dinasyddion Prydeinig yn ôl o Wuhan, lle mae tarddiad y coronavirus.

Mae Prydeinwyr yn Tsieina yn cael eu hannog i adael y wlad wrth i’r haint ladd mwy o bobl.

Mae disgwyl i’r awyren adael yn gynnar fore Sul a glanio yn RAF Brize Norton, meddai’r Swyddfa Dramor.

Gadael Tsieina

Yn ôl y wybodaeth a roddwyd i’r cyfryngau mae yna 165 o Brydeinwyr a’u teuluoedd yn dal yn ardal Hubei, prif darddiad y firws, ac mae ‘na 108 wedi holi y bore ‘ma (Mercher, 5 Chwefror) am gymorth i adael.

Mae cyfanswm o 94 o ddinasyddion Prydeinig a’u teuluoedd eisoes wedi dod yn ôl i Brydain o Wuhan ar ddwy awyren a gyrhaeddodd ddydd Gwener a dydd Sul.

Mae swyddogion iechyd hefyd yn ceisio dod o hyd i 239 o bobl a hedfanodd o Wuhan i Brydain cyn i’r cyfyngiadau teithio ddod i rym.

Profion

Yn ôl yr Adran Iechyd, hyd at ddydd Mawrth (4 Chwefror), mae 414 o brofion am y coronavirus wedi dod yn ôl yn negyddol.

Cafodd un teithiwr oedd ar yr awyren dros y penwythnos ei gludo i ysbyty yn Rhydychen ar ôl dweud wrth feddygon fod ganddo beswch ac annwyd. Cafodd y gweddill eu cludo i’r cwarantin yn Ysbyty Arrowe Park yn y Wirral.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cadarnhau fod dynes o Wlad Belg, oedd ar yr awyren Ffrengig oedd yn cludo Prydeinwyr o Tsieina ddydd Sul, wedi profi’n positif am coronavirus.

Cadarnhaodd Prifysgol Efrog na wnaeth y myfyriwr a ddaliodd y firws ddod i gysylltiad ag unrhyw un arall wrth fynd yn ôl i’w fflat.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud ei bod yn gynnar eto, ond nid yw’r coronavirus yn cael ei gyfrif fel pandemig hyd yn hyn.