Ifan Morgan Jones sy’n ystyried a ydi gofyn am fwy o gyllid i Gymru yn mynd i arwain at annibyniaeth…
Un tro roedd yna ffermwr o’r enw Steffan a chanddo 12 o blant. Bob mis roedd y plant yn gweithio’n galed a bob mis roedden nhw’n dod â rywfaint o’u harian yn ôl at eu tad. Byddai’n cymryd yr arian ac yn rhoi pres poced i bob un o’r 12 i wario dros y mis nesaf, yn ôl eu hangen.
Ei fab Llundain oedd yn cael y gyfran fwyaf o arian, ond roedd y ffarmwr yn ystyried hynny’n deg am mai Llundain oedd yn dod â’r swm mwyaf o bres iddo ar ddiwedd bob mis. Roedd dau o’u plant yn rhai mabwysiedig – Cymru ac Alban – ac roedden nhw’n cael siâr mawr o’r arian hefyd. Roedd ei angen arnyn nhw am eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith.
Er bod y deg plentyn arall yn weddol hapus yn byw ar fferm eu tad roedd Cymru a’r Alban wedi mynd yn fwy a mwy annibynnol yn ddiweddar ac wedi dechrau awgrymu y byddai’n well ganddyn nhw adael ryw ddydd. Roedd Steffan yn sylweddoli na fyddai’n gallu gwneud dim byd am y peth petaen nhw’n penderfynu gadael – eu dewis nhw fyddai. Ond roedden nhw’n cael mwy o bres poced ganddo nag oedden nhw’n ei roi o arian iddo ar ddiwedd y mis yn barod, a doedd o ddim yn gweld sut gallen nhw symud allan os oedden nhw’n dal i fod mor ddibynnol arno.
Beth bynnag, un dydd daeth Cymru ac Alban at eu tad mabwysiedig Steffan a gofyn am fwy o bres poced. “Pam ydych chi eisiau mwy o bres poced os ydych chi am symud allan o’r fferm?” gofynnodd yr hen ffermwr.
“Dyn ni ddim eisiau byw ar y fferm. Ac fe fyddwn ni’n symud allan ryw dydd. Ond mae’n adeg anodd, ac mae angen mwy o arian arnom ni,” medden nhw.
* * *
Ydi, mae’r ddameg fach uchod yn gor-symleiddio braidd, ond dyna yn fras y sefyllfa sy’n bodoli ar hyn o bryd. Mae Cymru yn dadlau nad ydi hi’n cael ei siâr teg o arian o’i gymharu â rhanbarthau Lloegr, a bod Llundain yn cael mwy y pen na hi. Ond mae hynny’n anwybyddu’r ffaith bod y rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr yn dod â mwy o arian i mewn hefyd.
Fel y mae Guto Dafydd yn nodi ar ei flog, mae annibyniaeth, yng Nghymru o leiaf, wedi mynd yn nod sydd fel pe bai dros y bryncyn nesaf o hyd. Mae Plaid Cymru a’r SNP wedi dweud eu bod nhw’n mynd i ofyn am eu ‘siar teg’ – h.y. mwy o arian – os oes cyfle i ddylanwadu yn sgil Senedd Grog ar ôl yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau. Ond a fydd mwy o gyllid i Gymru, gwlad sy’n orddibynnol ar y sector gyhoeddus yn barod, yn gam tuag at annibyniaeth ynteu yn gam i’r cyfeiriad arall?