Mae gŵyl newydd yn cael ei chynnal yng Nghorwen dros y penwythnos (Medi 14 a 15), gyda’r bwriad o “ddeffro” ymwybyddiaeth mewn hanes Cymru.
Un o’r atyniadau blaenllaw yng Ngŵyl y Fflam yw ailgread o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, Powys.
Mae ailgread o’r llys yn Sycharth wedi ei greu gan ddefnyddio technoleg rithwir a bydd yn rhoi cyfle i bobl grwydro llys y tywysog fel yr oedd yn ei gyfnod ef.
Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, maen nhw’n gobeithio gallu “bywiogi” tef Corwen.
Ymysg yr atyniadau eraill yng Ngŵyl y Fflam, bydd darlithoedd, darlleniadau, ac efelychiadau o frwydrau canoloesol.