Mae S4C wedi cadarnhau bod “trafodaethau ar y gweill i ddarlledu rhifyn ychwanegol o’r rhaglen Heno ar nosweithiau Sadwrn.
Mae’r rhaglen gylchgrawn nosweithiol yn cael ei darlledu ar S4C o nos Lun i nos Wener am 7yh, a hynny’n fyw naill ai o’r brif stiwdio yn Llanelli neu’r un yn Galeri, Nghaernarfon.
Y cwmni sy’n gyfrifol am ei chynhyrchu yw Tinopolis Cymru, sydd hefyd yn gyfrifol am ei chwaer rhaglen, Prynhawn Da.
Yn ôl S4C, maen nhw ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau gyda’r cwmni cynhyrchu ynglŷn ag ehangu arlwy Heno, ond dydyn nhw ddim mewn sefyllfa i “gadarnhau dim ar y funud”.
Mae’r gyflwynwraig a chadeirydd Tinopolis Cymru, Angharad Mair, hefyd wedi cadarnhau wrth golwg360 bod trafodaethau yn digwydd, ac yn dweud y bydd yr ehangu yn “ddatblygiad cyffrous iawn” i’r cwmni.
Cafodd y rhifyn cyntaf o Heno ei darlledu ar S4C yn 1990. Newidiwyd enw’r rhaglen yn Wedi 7 yn 2003, cyn i’r enw gwreiddiol gael ei adfer yn 2012.
Mae Prynhawn Da yn cael ei darlledu o ddyddiau Llun i Wener rhwng 2 a 3yp.
Ymhlith cyflwynwyr y ddwy raglen mae Angharad Mair, Rhodri Owen, Mari Grug a Sian Thomas.