Mae dyn 47 oed wedi ymddangos gerbron llys heddiw ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio dyn yng Nghlydach.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Gellionnen nos Fercher, ble cafwyd hyd i gorff Frederic Pallade, dyn 48 oed o Ffrainc.
Roedd Mr Pallade wedi byw yn Abertawe am rai blynyddoedd.
Heddiw fe ymddangosodd Andrew Tudor Jones, 47, o Glydach gerbron Llys Ynadon Abertawe.
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, Ebrill 23.