Mae pont newydd dros dro dros Afon Rhyd-hir ar yr A497 rhwng Efailnewydd a Boduan bellach yn agored.

Caewyd Pont Bodfel – sy’n strwythur rhestredig Gradd II – bron fis yn ôl oherwydd difrod strwythurol sylweddol.

Mae pont Bailey dros dro un lon bellach wedi ei gosod ac mae gwaith i roi wyneb ffordd cysylltiol wedi ei gwblhau. Golyga hyn fod y ffordd nawr yn agored dan system oleuadau traffig dwy-ffordd.

Ar yr un pryd, mae gwaith diogelu strwythur yr hen Bont Bodfel a’r broses o ganfod ateb hir-dymor i’r sefyllfa yn bwrw ‘mlaen.

Dywedodd AC Dwyfor-Meirionnydd Liz Saville Roberts: “Newydd gael neges i ddweud bod y bont dros dro bellach yn agored. Pob parch i swyddogion Cyngor Gwynedd am eu gwaith, gan edrych ymlaen i’r hen bont gael ei thrwsio neu ddatrysiad amgen.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros wasanaethau Priffyrdd a Bwrdeistrefol: “Rydw i’n siŵr y byddai’r gymuned gyfan yn cytuno fod yr ateb dros dro yma i’w groesawu. Golyga y byddwn yn gallu ail-agor y ffordd yn gynt gan leihau’r risg o ddamwain ffordd a mae’n galluogi’r gwasanaethau brys i ymateb cyn gynted a phosib i alwadau yn yr ardal.

Ychwanegodd Steffan Jones, Pennaeth mewn gofal o Wasanaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol y Cyngor: “Mae asesiadau technegol cychwynnol yn dangos fod difrod sylweddol wedi ei wneud i un o bileri Pont Bodfel, mae’n debyg fod hyn wedi ei achosi gan ysgwrio o dan sylfeini’r bont.

“Mae’r bont restredig Gradd II yn dyddio’n ôl i’r 19fed ganrif gynnar, sy’n gwneud unrhyw waith trwsio yn her. Mae’r Cyngor mewn trafodaethau efo’r tirfeddiannwr lleol, cynrychiolwyr o Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn adnabod y datrysiad tymor hir gorau. Bydd gofyn i’r Cyngor fynd trwy broses trwyddedu cyn gwneud unrhyw waith trwsio ar Bont Bodfel, oherwydd ystyriaethau llifogydd, llygredd a physgodfeydd.”