Dilys Mildon, perchennog bwyty enwog Gannet’s yn Aberystwyth, fydd Tywysydd Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth 2019. Mae Dilys, a’i gŵr, Dave, yn adnabyddus i bobl y dre a Chymru am redeg y bwyty poblogaidd oedd yn ganolfan i Gymreictod y dref a thu hwnt am 24 mlynedd.
Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gwyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a bydd y Tywysydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad bwysig i iaith a diwylliant Cymru.
Magwyd Dilys yn Llangwyryfon a mynychodd Ysgol Ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth cyn astudio coginio yn y coleg yng Nghaerdydd. Yn ystod yr 1970au bu’n drefnydd gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin oedd newydd ei sefydlu gan gynnal cylchoedd yn Heol y Crwys ac Ystum Taf. Roedd ei gwr, Dave, sy’n hannu o Sain Ffagan, yn gweithio ym maes awyr Rhws ar y pryd. Aeth ef yn ei flaen i fod yn gyfrifol am fwydlenni rhyngwladol British Airways a symudodd Dilys a’i merch, Lisa, ato lle cafodd Dilwys swyddi mewn ysgolion yno. Yn dilyn marwolaeth mam Dilys symudodd y teulu i Aberystwyth gan gymryd drosodd bwyty Gannet’s – bwyty llysieuol ar y pryd a chadw’r enw. Maent wedi rhedeg y bwyty’n llwyddiannus nes ymddeol y llynedd – tipyn o gamp yn yr oes sydd ohoni.
Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Parêd, “Rydym yn hynod falch i Dilys Mildon dderbyn ein cais i fod yn Dywysydd eleni. Mae Gannet’s wedi bod yn ganolfan bwysig i’r bywyd Cymraeg yn y dref ers degawdau. Pan gymerodd Dilys a Dave yr awenau yn Gannet’s prin iawn oedd y bwytai yn Aberystwyth ac roedd yn o hyd rhyw deimlad mae Saesneg a Seisnig oedd iaith ac agwedd bwytai o safon. Llwyddodd Cymreictod naturiol a chymeriad hoffus Dilys gyda chefnogaeth Dave ei gwr a Gwen ei chwaer, y ddangos bod modd rhedeg busnes nad oedd ag embaras o’r Gymraeg ac a oedd yn groesawgar i bobl o bob cefndir. Yn ogystal ag arddel ei Chymreictod mae Dilys hefyd wedi cefnogi’r diwylliant Gymraeg yn y dref a’r ardal trwy gydol yr amser. Mae pwysigrwydd busnesau Cymreig fel Gannet’s yn hynod bwysig i dref fel Aberystwyth, ac mae’n bwysig i’r cyhoedd eu cefnogi,” meddai Siôn Jobbins
Meddai Dilys: “ Bydd arwain y Parêd yn frraint a phleser. Roedd yn syrpreis hyfyrd ac annisgwyl. Eleni hefyd fydd y tro cyntaf i fi fynd ar y Parêd gan ‘mod i wedi gweithio ar bob dydd Sadwrn flaenorol! Mae rhedeg Gannet’s wedi bod yn brofiad hapus dros ben i fi a Dave, a Gwen fy chwaer. Ry’n ni wedi derbyn cefnogaeth y bobl leol o’r dechrau ac yn hynod o ddiolchgar am hynny. Byddai pobl fel Meredydd Evans (Tywysydd cyntaf y Parêd yn 2013) yn arfer dod yma i fwyfa ynghyd â phobl o bob oed a chefndir. Yr wythnos orau yn hanes Gannet’s oedd wythnos Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1992 – dydy ni erioed wedi bod mor brysur. Ond hyd yn oed yn ganol holl rhuthr rhedeg y bwyty, wnes i’n siŵr ‘mod i’n cymryd dwy awr bob dydd i fynd i’r Steddfod – wn i ddim o le ges i’r nerth! Rwy’n edrych ymlaen nawr i’r ymddeoliad – er fod digon i wneud – ac rwy’n edrych ymlaen i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2020. Roedd defnyddio a siarad Cymraeg yn y bwyty wastad yn beth naturiol i fi, a dwi’n credu iddo helpu at lwyddiant Gannet’s,” meddai Dilys.
Llwybr Newydd:
Cynhelir Parêd 2019 ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth. Bydd yn dilyn yr llwybr ychydig yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol – dechrau o Gloc y Dre i waelod y Stryd Fawr, ac yna troi i’r chwith ar gornel Banc Barclays am Ffordd y Môr a syth am Lys-y-Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.
Noddwyr:
Mae’r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth am eu nawdd hael a Chlwb Cinio Aberystwyth am eu nawdd a chymorth.
Tywyswyr Blaenorol:
Mae Dilys yn dilyn yn ôl traed yr awdur, cyhoeddwr a gweithredwr, Ned Thomas (2018); y diddanwr a’r codwr arian Glan Davies (2017); yr artist Mary Lloyd-Jones (2016); yr awdur a’r cyn-brifathro Gerald Morgan (2015); sylfaenwyr busnes Siop y Pethe, Megan a Gwilym Tudur (2014) a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans (2013).