Racing 92 46–33 Scarlets
Daeth ymgyrch y Scarlets yng Nghpwan Pencampwyr Ewrop i ben gyda cholled mewn gêm gyfforus yn erbyn Racing 92 yn y Paris La Defense Arena brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd yr ymwelwyr o Gymru dri chais eu hunain ond ymatebodd y Ffrancwyr gyda chwech.
Y tîm cartref a gafodd gais cyntaf y gêm wedi deg munud diolch i’r Archentwr ar yr asgell, Juan Imhoff. Ond llwyddodd Dan Jones gyda dwy gic gosb i’r Scarlets o bobtu’r cais hwnnw gan olygu bod yr ymwelwyr bwynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner.
Ymestynnodd Steff Evans y fantais honno gyda chais cyntaf yr ymwelwyr cyn i Racing daro nôl gyda chais Henry Chavancy.
Rhoddod cic gosb Maxime Machenaud y Ffrancywr ar y blaen saith munud cyn yr egwyl ond newidiodd yr oruchafiaeth unwaith eto gyda chic olaf yr hanner wrth i dri phwynt Jones roi Bois y Sosban yn ôl ar y blaen, 15-16 wrth droi.
Dechreuodd y Scarlets yr ail hanner ar dân gyda chais i Johnny McNicholl, y cefnwr yn gwnaed yn wych i gasglu a thirio cic ddeallus Evans.
Cafwyd ymateb gwych gan y tîm cartref wedi hynny, yn sgorio pedwar cais heb ateb, dau i Simon Zebo ac un yr un i Virimi Vakatawa a Teddy Iribaren.
Golygodd hynny mai cais cysur yn unig a oedd ail un McNicholl yn y munudau olaf, 46-33 y sgôr terfynol mewn gêm gyffrous.
Mae’r Scarlets yn gorffen yn drydydd yng ngrŵp 4, tu ôl i Racing ac Ulster, gyda’r ddau dîm hynny’n symud ymlaen i’r wyth olaf.
.
Racing 92
Ceisiau: Juan Imhoff 10’, Henry Chavancy 25’, Simon Zebo 47’, 72’, Virimi Vakatawa 52’, Teddy Iribaren 66’
Trosiadau: Maxime Machenaud 27’, 48’, 53’, Finn Russell 67’, 73’
Ciciau Cosb: Maxime Machenaud 33’, Teddy Iribaren 80’
.
Scarlets
Ceisiau: Steff Evans 21’, Johnny McNicholl 45’, 75’
Trosiadau: Dan Jones 22’, 45’, Sam Hidalgo-Clyne 76’
Ciciau Cosb: Dan Jones 2’, 19’, 40’, 50’