Mae miloedd o Sbaenwyr wedi bod yn gwrthdystio ym Madrid yn erbyn y llywodraeth Sosialaidd mewn rali a drefnwyd gan grwpiau ymylol asgell-dde.

Daethant ynghyd o flaen senedd Sbaen heddiw, nifer ohonyn nhw yn dal unai faner presennol Sbaen neu ei ragflaenydd oedd yn cynrychioli y cyn arweinydd unbennaethol Franco.

Fe waeddodd y dorf sloganau yn erbyn y Prif Weinidog Pedro Sanchez, gan ei alw’n “ymwahanwr” am ei barodrwydd i gyfarfod ag arweinwyr annibyniaeth i Gatalwnia.

Nid oedd unrhyw aelod o’r prif bleidiau gwleidyddol yn bresennol.

Daeth Mr Sanchez i rym yn gynharach eleni wedi i’r cyn brif weinidog Mariano Rajoy golli pleidlais diffyg hyder yn dilyn sgandal llygredd o fewn ei blaid geidwadol.