Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n enwebu eu harweinydd i fod yn Brif Weinidog, wedi i olynydd Carwyn Jones gael ei benodi.

Mae disgwyl i enw arweinydd newydd Llafur Cymru gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr – Mark Drakeford, Eluned Morgan a Vaughan Gethin sy yn y ras honno.

A’n sgil hynny bydd Plaid Cymru yn galw am bleidlais yn y Cynulliad i benodi Prif Weinidog, gyda’r nod o osod Adam Price yn y rôl.

“Gyda’r prif weinidog presennol yn gadael ei swydd ym mis Rhagfyr, mae hyn yn gyfle euraidd am newid i Gymru,” meddai Adam Price wrth Newyddion 9.

“Dyw ein cenedl wedi profi dim ond prif weinidogion Llafur. Maen nhw wedi arwain dros bron i ddau ddegawd o ddirywiad, gan adael Cymru ar waelod bron i bob tabl.”

Pleidlais

Yn dilyn etholiad Cynulliad 2016, mi wnaeth Plaid Cymru enwebu Leanne Wood – yr arweinydd bryd hynny – i fod yn Brif Weinidog, a chafodd y blaid ei gefnogi gan aelodau UKIP a’r Ceidwadwyr.

Gorffennodd y bleidlais yn gyfartal, a’n sgil hynny daeth Llafur a Phlaid Cymru i gyfaddawd a welodd Carwyn Jones yn parhau yn ei swydd.