“Cam i’r ochr” yw penodiad Adam Price yn arweinydd ar Blaid Cymru, yn hytrach na cham ymlaen.

Dyna farn Sioned James, 26, Ysgrifennydd cenedlaethol Plaid Ifanc, a Chadeirydd y gangen ieuenctid yng Nghaerdydd.

Yn ystod ymgyrch arweinyddiaeth y blaid mi gymerodd Plaid Ifanc safiad niwtral, ac yn ôl Sioned James roedd yna “lot o wahaniaeth barn” ymhlith aelodau ynglŷn â phwy fyddai orau am y swydd.

Er hynny, aeth 50 o’i aelodau ati i lofnodi llythyr o gefnogaeth at Leanne Wood, yr arweinydd ar y pryd, ac roedd yr Ysgrifennydd yn aelod o’r garfan honno.

 dyn wrth y llyw unwaith eto, mae Sioned James yn gwadu mai cam yn ôl yw ei benodiad, ond mae’n cyfleu rhywfaint o siomedigaeth.

“Dw i’n rhannu lot o siom gyda nifer o’n haelodau Plaid Ifanc ni ynglŷn â hynny, ond hefyd brwdfrydedd ynglŷn â’r dyfodol newydd gydag Adam,” meddai wrth golwg360.  

“Mae’n amlwg yn siaradwr cryf, arbennig o dda. Ac mae ganddo chwilfrydedd. [Cawn weld] os bydd ef yn medru gwneud yr hyn mae’n dweud y mae ef yn gallu gwneud.

“Mae Leanne Wood yn haeddu’r holl glod oherwydd ei sgiliau hi, a’i phrofiad hi, a’i dealltwriaeth hi o’i hetholaeth. Dw i’n gobeithio bod Adam yn rhannu’r un fath o sgiliau a phrofiad, a gwybodaeth.

“Fel menyw dw i’n teimlo fy mod yn gallu cysylltu â Leanne yn fwy. O bosib oherwydd ei bod hi’n fenyw. Ond hefyd, dw i ddim yn gweld [Adam] fel cam yn ôl, dw i’n ei weld fel cam i’r ochr.”

Agenda

Mae Plaid Ifanc “wastad wedi bod yn gryf ofnadwy” yn eu safbwynt ar hawliau pobol LHDT (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Traws) a lleiafrifoedd ethnig, meddai Sioned James.

“Mae wedi ei adeiladu mewn i’n cyfansoddiad ni yn benodol i fod yn llais sy’n ymgyrchu tros eu hawliau nhw,” meddai wedyn.

Wrth edrych at y dyfodol, mae’n gobeithio y bydd Adam Price yn gofalu am yr hawliau yma, a’n nodi bod y gangen ieuenctid yn barod i sefyll dros eu “hagenda” .

“Dw i’n credu bod Adam yn rhannu’r un gwerthoedd, a’r un weledigaeth â Phlaid Ifanc ynglŷn â’r hawliau hynny’n cael eu gwarchod,” meddai.

“Petai’r rheiny, am ryw reswm, yn cael eu bygwth, bydden ni’n ei ystyried yn gyfrifoldeb i wthio’r sgwrs yna ymlaen ac i warchod yr holl hawliau yna.

“Dw i’n gweld hynna fel rôl benodol, arbennig, sydd gan Blaid Ifanc.”

Digwyddiad

Bydd Plaid Ifanc yn cynnal digwyddiad ymylol o’r enw ‘Plaid i Bawb’ dydd Sadwrn (Hydref 10), lle byddan nhw’n trafod sut i wella amrywiaeth o fewn y blaid.