Cafodd dyn ei arestio am redeg ar ôl awyren mewn maes awyrennau am ei fod yn rhy hwyr i’w dal.

Roedd y dyn, yn ei ugeiniau, wedi ceisio dal yr awyren Ryanair ym Maes Awyr Dulyn y bore ‘ma.

Deallir fod y dyn a dynes arall wedi cyrraedd yn rhy hwyr i ddal yr awyren oedd yn hedfan i Amsterdam.

Wrth siarad gyda staff ger y giat, fe dorrodd y dyn drwy’r drws a dechrau rhedeg tuag at yr awyren.

Fe gadarnhaodd y Gardai eu bod wedi cael eu galw i’r digwyddiad tua 7 y bore. Aed a’r dyn i Orsaf Garda Ballymun i gael ei holi.