Mae un person wedi cael ei ganfod yn fyw mewn fferi oedd wedi troi drosodd yn Llyn Fictoria, Tanzania.
Cafwyd i’w hyd ddeuddydd wedi’r drychineb. Deallir mai peiriannydd oedd y person a ganfuwyd ger peiriant y fferi. Nid yw’n glir beth yw ei gyflwr.
Yn y cyfamser, mae eirch ar gyfer o leiaf 167 o bobl wedi cyrraedd y safle.
D’oes neb yn gwybod faint yn union o bobl oedd ar y fferi, er mai 101 oedd y cyfanswm i fod.
Ddoe, dywedodd swyddogion y llywodraeth yno fod o leiaf 40 o bobl wedi eu hachub.
Mae Llywydd y wlad, John Magufuli, wedi gorchymyn i’r rhai oedd yn gyfrifol gael eu harestio.
“Mae hyn yn drychineb mawr i’n gwlad,” meddai wrth gyhoeddi pedwar diwrnod o alaru cenedlaethol.
Fe wnaeth y fferi – oedd yn llawn i’r ymylon – droi drosodd yn agos i’r lan ddydd Iau wrth iddi gludo pobl adref o farchnad leol.
Mae rhai pysgotwyr a llygaid dystion wedi son am eu pryderon y gallai rhagor na 200 o bobl fod wedi marw.