O heddiw ymlaen, bydd rhai dinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd sydd am aros yn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit yn medru anfon ceisiadau i wneud hynny.
Ar ddydd Mawrth (Awst 28) bydd cynllun peilot yn cael ei lansio, a bydd bron i 4,000 o bobol yn cael eu gwahodd i wneud cais am statws arbennig.
Gweithwyr iechyd, myfyrwyr a staff prifysgolion yng ngogledd orllewin Lloegr yw’r unigolion sydd wedi’u gwahodd i gymryd rhan, a bydd yn rhaid iddyn nhw wneud apwyntiad er mwyn anfon cais.
Erbyn diwedd y flwyddyn bydd tipyn yn rhagor o bobol yn medru anfon cais, ac yn y pen draw bydd modd cwblhau’r ceisiadau ar lein.
Y drefn
Bydd modd i ddinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd sydd wedi byw yn y Deyrnas Unedig am o leia’ pum mlynedd erbyn 2020 yn medru anfon cais i aros wedi Brexit.
I bobol a gyrhaeddodd gwledydd Prydain cyn 2021, ond sydd heb fyw yno am bum mlynedd, bydd modd iddyn nhw anfon cais ar gyfer statws arbennig.
Bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth eu bod yn byw yn y Deyrnas Unedig, a manylion ynglŷn ag unrhyw ddedfrydau troseddol yn eu herbyn.