Mae Morgannwg wedi arwyddo’r batiwr o Awstralia, Usman Khawaja ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast y tymor hwn.

Mae’r cytundeb yn ddibynnol ar sêl bendith Bwrdd Criced Awstralia.

Bydd y batiwr llaw chwith ar gael ar gyfer holl gemau grŵp y sir.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at yr “her o’u helpu i adeiladu ar eu llwyddiant” wrth iddyn nhw gyrraedd Diwrnod y Ffeinals y tymor diwethaf.

Mae Usman Khawaja yn chwaraewr profiadol mewn gemau ugain pelawd, ac yntau wedi cynrychioli Sydney yn y Big Bash a’r Pune Supergiants yn yr IPL yn India.

Mae e wedi chwarae mewn 58 o gemau ugain pelawd, gan sgorio 1,702 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 32, gan daro dau ganred. Mae hefyd wedi cynrychioli Awstralia mewn naw o gemau ugain pelawd.

Dywed Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris fod Usman Khawaja yn “chwaraewr o safon fyd-eang” ac yn “fatiwr dinistriol” all gyfrannu at restr fatio “sy’n gallu cyffroi torfeydd yng Nghymru”.