Fe fydd y Prif Weinidog, Theresa May, yn wynebu Aelodau Seneddol heddiw, a hynny am y tro cyntaf ers y cyrchoedd milwrol yn Syria.
Mae disgwyl y bydd y Prif Weinidog yn wynebu cwestiynau caled yn Nhŷ’r Cyffredin gyda rhai ASau’n amau a oedd y cyrchoedd yn gyfreithiol ac eraill yn flin am na chafodd Tŷ’r Cyffredin bleidleisio ar y mater ymlaen llaw.
Fe fydd y Prif Weinidog yn amddiffyn ei phenderfyniad, gan fynnu bod y cyrchoedd o “fudd cenedlaethol” er mwyn ceisio atal defnydd o arfau cemegol, gan gynnwys ymosodiadau yn y Deyrnas Unedig – cyfeiriad ar y gwenwyno yn Salisbury, neu Gaersallog.
‘Rhaid rhwystro arfau cemegol’
“Gadewch i mi fod yn hollol glir,” meddai Theresa May ymlaen llaw. “R’yn ni wedi gweithredu oherwydd ei fod o fudd cenedlaethol i ni wneud hynny.
“Mae o fudd cenedlaethol i ni rwystro defnydd pellach o arfau cemegol yn Syria – ac i gadw ac amddiffyn y consensws rhyngwladol na ddylai’r arfau hyn gael eu defnyddio.
“Allwn ni ddim gadael i’r defnydd o arfau cemegol gael ei normaleiddio – yn Syria, ar strydoedd y Deyrnas Unedig, neu unman arall.”
Fe fydd y Prif Weinidog hefyd yn gofyn am ddadl frys yn Nhŷ’r Cyffredin er mwyn trafod y mater, ond dyw hi ddim yn cynnig pleidlais.
Gwrthwynebu
Fe ymunodd y Deyrnas Unedig â’r Unol Daleithiau a Ffrainc ddydd Gwener er mwyn cynnal cyrchoedd awyr ar rai o ganolfannau arfau cemegol Syria, yn dilyn yr ymosodiad ar Douma wythnos yn ôl.
Dywedodd ar y pryd fod y cyrchoedd yn “gyfreithlon”, ac amddiffynnodd ei phenderfyniad i fwrw ymlaen heb sêl bendith y Senedd ac fe ddywedodd Arylywdd Ffrainc, Emmanuel Macron, mai ef oedd wedi gwthio’r Unol Daleithiau i weithredu.
Ond mae arweinydd y gwrthblaid, Jeremy Corbyn, wedi dweud bod angen cyflwyno deddf newydd a fydd yn ei wneud yn orfodol i’r Llywodraeth gael caniatâd Tŷ’r Cyffredin cyn gweithredu ar faterion milwrol.
Wrth godi cwestiynau am gyfreithlondeb y cyrchoedd, fe ddywedodd fod y cemegyn perthnasol, clorîn, yn cael ei ddefnyddio gan “nifer o’r rhai sy’n rhan o’r gwrthdaro” yn Syria.