Mae dyn 45 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio John ‘Jack’ Williams, 67, o ardal Pentrechwyth yn Abertawe.

Bydd Simon Cairns yn mynd gerbron ynadon y ddinas fore dydd Llun.

Aeth Gemma Owen, 31, gerbron ynadon ddoe wedi’i chyhuddo o lofruddio, a chafodd ei chadw yn y ddalfa.

Ac mae’r heddlu wedi arestio rhagor o bobol mewn perthynas â’r digwyddiad. Mae dyn 41 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio, a dyn 57 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r gymuned wrth i’r ymchwiliad barhau, gan ychwanegu eu bod nhw wedi arestio pawb yr oedden nhw’n chwilio amdanyn nhw.

Cafwyd hyd i gorff John ‘Jack’ Williams yn ei gartref am 12.30 brynhawn dydd Sadwrn, 31 Mawrth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.