Pan fydd Cymru’n mynd amdani yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm y Principality ddydd Sul, fe allai’r record o ran y dorf fwyaf ar gyfer gêm ryngwladol menywod gael ei chwalu’n rhacs.
Ar hyn o bryd y record yw 17,115 – dyna faint wnaeth weld ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd 2017 yn Stadiwm Kingspan yn Belfast, pan wnaeth Seland Newydd guro Lloegr 41-32.
Mae Ffrainc eisoes wedi gwerthu 15,000 o docynnau ar gyfer eu gêm nhw yn erbyn merched Lloegr yn Grenoble y penwythnos hwn, sy’n dal 20,000.
Ond mae dros 45,000 o gefnogwyr wedi cael tocyn i fynd i weld merched Cymru ddydd Sul yn erbyn yr Eidalwyr yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.
Bydd yr ornest honno yn cael ei chwarae cyn gêm y dynion sy’n cychwyn am dri.