Mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn am gynnal ymchwiliad annibynnol i edrych ar ei “weithredoedd a’i benderfyniadau” ei hun mewn perthynas gyda Carl Sargeant, a gafodd ei ddarganfod yn farw ddyddiau wedi iddo golli ei swydd yn Llywodyraeth Cymru.

Carl Sargeant wedi’i gael yn farw

Daw’r penderfyniad wedi i gynrychiolwyr teulu Carl Sargeant ofyn am ymchwiliad ar unwaith.

Fe gollodd Carl Sargeant ei safle yn Llywodraeth Cymru wythnos yn ôl wedi i gwynion gael eu gwneud ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at ferched.

Carl Sargeant wedi’i wahardd o’r Blaid Lafur

Heddiw bu gwleidyddion Llafur a phleidiau eraill yn pwyso ar Carwyn Jones i ganiatau cynnal ymchwiliad i’r ffordd y gafodd y materion yn ymwneud gyda Carl Sargeant eu trin.

Y pwysau’n parhau ar Carwyn Jones