Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar ffordd yr A489 rhwng Caersws a’r Drenewydd.
Bu farw gyrrwr un o’r cerbydau yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ychydig cyn wyth o’r gloch neithiwr.
Mae’r ffordd wedi cau ers y digwyddiad a does dim arwydd ei bod wedi ail-agor eto. Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gosod dargyfeiriad ym Mhenystrywaid i’r gorllewin o’r Drenewydd.
Mae teulu’r person a gafodd ei ladd yn cael cymorth arbenigol gan swyddog cyswllt â’r teulu’r heddlu.
Mae gofyn i unrhyw dystion i’r digwyddiad gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.