Ifan Morgan Jones yn pwyso a mesur perfformiad y tri arweinydd neithiwr…

Mae’r polau piniwn yn dangos anghytundeb barn ynglŷn â phwy enillodd yr ail ddadl neithiwr. Mae dau bôl biniwn wedi dweud mai Nick Clegg oedd orau, tra bod dau arall wedi rhoi David Cameron ar y blaen, gyda Gordon Brown yn drydydd agos.

Roedd agosatrwydd y tri yn ddealladwy o ystyried bod pob un wedi gwneud yn dda neithiwr – Clegg cystal â’r wythnos ddiwethaf ond Cameron a Brown yn llawer gwell.

Yn anffodus i Cameron doedd gwneud yn llawer gwell ddim digon da – roedd angen rhoi cweir iawn i Nick Clegg gan sicrhau ei fod yn cwympo cymaint yn y polau piniwn yr wythnos yma ag yr oedd wedi codi  yr wythnos diwethaf.

Roedd nifer o sylwebwyr wedi cymharu’r ddadl gyda gornest focsio – efallai bod Cameron wedi ennill yr ail rownd ar bwyntiau, ond roedd angen iddo roi’r ergyd derfynol i Clegg.

Mwy bywiog

Fel arall, roedd hi’n ddadl llawer mwy bywiog a slic na’r wythnos ddiwethaf, gyda’r arweinwyr yn torchi llewys ac yn barod i daro yn hytrach na chymryd cam yn ôl.

Nid dadleuon am arlywyddiaeth gwlad yw’r rhain wedi’r cwbl – un o ofynion pennaf bod yn Brif Weinidog ydi’r gallu i ennill dadl danllyd yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog bob dydd Mercher.

Roedd hi’n amlwg bod yr arweinwyr wedi paratoi llai o linellau a straeon o flaen llaw – strategaeth a fethodd i Brown a Cameron yr wythnos ddiwethaf – ac felly roedden nhw’n dadlau’n agored yn hytrach na darllen nodiadau.

Ond, yn eironig, un o jôcs parod Gordon Brown, fod y ddau arall fel ei blant yn ffraeo amser bath, a ddenodd yr ymateb gorau gan y gynulleidfa.

Dim ond Nick Clegg a fentrodd ddweud stori – ei fod wedi cyfarfod cwpwl oedrannus oedd yn mynd am daith ar y bws am nad oedden nhw’n gallu fforddio cynhesu eu tŷ.

Y cwestiwn annisgwyl

Dim ond un cwestiwn, am ymweliad y Pab i Brydain yn dilyn y cyhuddiadau o gam drin plant, wnaeth ysgwyd y tri ryw fymryn. Roedd hi’n amlwg nag oedden nhw wedi disgwyl honna ac roedd rhaid iddyn nhw feddwl yn gyflym, ond daeth pob un drwyddi heb unrhyw gamgymeriad mawr.

Ateb Nick Clegg, nad oedd o’n “ddyn o ffydd”, oedd fwyaf diddorol – pe bai fyth yn dod yn Brif Weinidog, ai ef fyddai’r anffyddiwr cynta’ i fod yn y swydd?

Wnaeth Nick Clegg ddim digon o ddefnydd o’i arf cryfaf, sef mai ei blaid o oedd yr unig un i wrthwynebu rhyfel Irac.. Ac fe gollodd y ddadl ar rai materion eraill, fel cael gwared ar Trident,  a hynny’n syml oherwydd bod y ddau arall wedi mynd penderfynu mynd amdano ar y pwnc hwnnw.

Dyna’r unig bryd y dywedodd David Cameron “rydw i’n cytuno gyda Gordon” gan awgrymu ei fod yn ystyried mai Nick Clegg yw ei elyn pennaf erbyn hyn.

Fe wnaeth Nick Clegg siarad gystal â’r wythnos ddiwethaf ond roedd yn sownd yn y canol, yn llythrennol, ar sawl mater o bwys ac roedd y ddau arall yn fwy parod i’w herio y tro yma.

Yr effaith

Mae’n anodd dweud pa effaith fydd hyn yn ei gael ar y polau piniwn. Fyddwn i’n disgwyl i gefnogaeth David Cameron gynyddu rhywfaint ond dim digon i ennill mwyafrif.

Efallai y bydd y gefnogaeth i Nick Clegg yn disgyn ychydig bach wrth i Cleggmania redeg allan o stêm, ond fe fydd o’n parhau’n ail cyffyrddus, gyda Llafur a  Brown yn drydydd.

Felly dyw’r ddadl ddim wedi newid y peth pwysig, sef ein bod ni’n anelu at Senedd Grog. Mae’n ymddangos yn debygol mai ar ôl Mai 6 y bydd y llywodraeth nesa’n cael ei phenderfynu, mewn trafodaethau y tu ôl i ddrysau caeedig, yn hytrach nag yn y blychau pleidleisio.