Llanelli 3 – 1 Rhyl

Roedd Llanelli’n drech na’r Rhyl ar Barc Stebonheath neithiwr – buddugoliaeth sy’n sicrhau diweddglo cyffrous i Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.
Hon oedd trydedd buddugoliaeth Llanelli mewn chwe diwrnod, gan gadw eu gobeithion o gipio ail pencampwriaeth mewn tair blynedd yn fyw.

Mae’n golygu bod rhaid i’r Seintiau sicrhau gêm gyfartal fory, ond mae’r canlyniad hefyd yn rhoi hoelen olaf yn arch gobeithio Y Rhyl o chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.

Ar ei hôl hi

Roedd y tîm cartref gôl ar ei hôl hi wedi 17 munud, wrth i Andrew Pearson rwydo i’r Rhyl. Ond, dair munud yn ddiweddarach roedd Jordan Follows wedi unioni’r sgôr, cyn i brif sgoriwr y gynghrair, Rhys Griffiths roi Llanelli ar y blaen wedi hanner awr.

Roedd Griffiths eisoes wedi sgorio tair gôl i’w glwb yr wythnos yma, ac ef oedd arwr Llanelli eto neithiwr. Fe seliodd y fuddugoliaeth gyda chic o’r smotyn wedi 73 munud gan ddod â’i gyfanswm am y tymor i 27 gôl.

Sadwrn sbesial

Mae’r canlyniad yn golygu y bydd y teitl yn cael ei benderfynu ar ddiwrnod ola’r tymor yn un o’r gornestau agosa’ ers blynyddoedd.

Y Seintiau Newydd sydd ar y brig ar hyn o bryd, a nhw yw’r ffefrynnau oherwydd eu gwahaniaeth goliau. Dim ond gêm gyfartal fydd ei angen arnyn nhw yn Aberystwyth.

Mae Llanelli oddi cartref ym Mhrestatyn, a dim ond buddugoliaeth wneith y tro iddyn nhw.

Ras am Ewrop hefyd

Fydd gêm y Seintiau ddim yn hawdd. Mae Aber yn cael tymor arbennig o dda, a byddan nhw ar dân i ennill gan fod gobaith gwirioneddol ganddyn nhw i hawlio’r trydydd safle, a lle yn Ewrop.

Fe fydd hynny’n digwydd os byddan nhw’n ennill a Phort Talbot yn colli. Mae Port Talbot gartref yn erbyn Y Bala, sydd hefyd angen buddugoliaeth i hawlio eu lle yn y deg uchaf a sicrhau lle yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Y tîm arall sy’n cystadlu am y trydydd safle ydy Bangor sydd gartref yn erbyn Y Drenewydd.

Gyda chymaint yn y fantol, mae’n addo bod yn ddiwrnod enfawr i gloi tymor yr Uwch Gynghrair.

Llanelli: Craig Morris, Lee Phillips, Michael Howard, Andrew Mumford (Craig Jones 56′), Stuart Jones, Wyn Thomas, Stephen Evans (Owain Warlow 56′), Chris Venables, Rhys Griffiths, Chris Holloway (Lee Jarman 76′), Jordan Follows

Eilyddion na ddefnyddiwyd: Ryan Batley, Craig Frater
Goliau: Jordan Follows 19′, Rhys Griffiths 29′, 73′(c.o.s.)

Rhyl: Jack Cudworth, Martin Naylor (Rob Turner 60′), Phil Doran, Shaun Dowling, Greg Strong, John Leah, Chris Williams, Andrew Pearson, Gareth Owen, Matthew Williams, Tyrone Kirk (Sam Heenan 79′)

Eilyddion na ddefnyddiwyd: Phil Opajah, Joe Dixon
Gôl: Andrew Pearson 17′

Torf: 308
Dyfarnwr: Kevin Morgan