Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, sy’n dadlau bod angen sicrhau’r adferiad gyda phleidlais dros ei blaid…
Mae’r Etholiad Cyffredinol hwn yn ymwneud â dewis. Yng Nghymru mae dewis clir rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr. Ni all unrhyw un arall ennill, ni all unrhyw un arall ffurfio llywodraeth yn San Steffan.
Mae economi Cymru yn dechrau adfer yn dilyn yr argyfwng ariannol byd-eang. Rydym eisiau sicrhau’r adferiad hwnnw; nid ei beryglu. Ond, os daw’r Torïaid i rym, mae perygl gwirioneddol y bydd economi Cymru yn llithro i mewn i ail ddirwasgiad fydd yn llawer gwaeth ac yn llawer mwy niweidiol.
Gyda David Cameron a George Osborne yn bygwth Cyllideb argyfwng o fewn 50 o ddiwrnodau ar ôl ennill yr etholiad gyda rhaglen o doriadau cyflym a llym, mae swyddi Cymru, ffyniant Cymru a busnesau Cymru mewn perygl.
Mae’r etholiad yn ddewis am sefydlogrwydd economaidd Cymru a sicrhau swyddi Cymru. Hyd yn oed ar ôl yr argyfwng bancio byd-eang, ar ôl yr holl broblemau y mae pobl wedi eu hwynebu yn y dirwasgiad gwaethaf yn y byd ers pedwar ugain mlynedd, mae 2.4 miliwn yn fwy o swyddi ym Mhrydain o dan ein Llywodraeth Lafur nag o dan y Torïaid – a 98,000 yn fwy o swyddi yng Nghymru. Mae dros 800,000 yn fwy o weithwyr yn y sector cyhoeddus o hyd – ymhell dros 50,000 yn fwy yng Nghymru, yn cynnwys meddygon, nyrsys, athrawon a swyddogion yr heddlu. Maent oll yn weithwyr hanfodol yn y sector cyhoeddus, sydd yn sicrhau bod amserau aros ar gyfer llawdriniaethau mewn ysbyty wedi gostwng o flynyddoedd i wythnosau, bod safonau ysgolion yn well, a bod troseddu wedi gostwng.
Byddai Llywodraeth Dorïaidd yn peryglu llawer o’r hyn y mae teuluoedd Cymru yn dibynnu arno: credydau treth ar gyfer pobl ar incwm cymedrol; presgripsiynau am ddim; tocynnau bws am ddim ar gyfer pobol hŷn; brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, taliadau tanwydd y gaeaf. Bydd y Torïaid yn gwneud toriadau llym ar ôl etholiad, yn waeth na’r hyn maen nhw’n ddweud cyn y diwrnod pleidleisio.
Bydd Llafur yn cefnogi’r datblygiadau newydd hyn gan ein bod yn gwybod bod angen llywodraeth ar Gymru sydd o blaid y bobl, nid llywodraeth sydd yn gadael pobl ar eu pen eu hunain. Mae Llafur bob amser wedi bod yn blaid y bobl, gan sefyll dros bawb ac nid yr ychydig breintiedig. Dyma pam y gwnaethom sefydlu’r GIG a pham yng Nghymru yr ydym wedi agor ysbytai newydd ar draws Cymru, wedi cynnal rhaglen enfawr i adnewyddu’r GIG ac wedi cyflwyno presgripsiynau am ddim.
Nid yr un yw’r stori gyda’r Torïaid. Mae nhw wedi addo rhoi £200,000 yr un mewn treth etifeddiant i 150 o ystadau cyfoethocaf Cymru. Ond, i bawb arall, mae nhw’n bygwth toriadau mawr i ddileu budd-daliadau o’r crud i’r bedd.
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol, a ffurfiwyd gan Lafur ac a arweinir gan Lafur, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl: gyda buddsoddiad enfawr yn ein gwasanaethau rheng flaen, gyda thocynnau bws am ddim ar gyfer pobl dros 60 oed, canlyniadau gwell mewn ysgolion ar draws Cymru a nofio am ddim ar gyfer pobl o dan 16 oed. Byddai toriadau llym gan y Torïaid i’r gwasanaethau rheng flaen hyn nawr yn niweidiol i bawb.
Yn y pen draw, mae’r etholiad hwn yn ddewis syml rhwng Llafur a’r Torïaid. Ni fydd unrhyw un arall yn ennill – nid Plaid Cymru, nid y Democratiaid Rhyddfrydol.