Mae elusen RSPB Cymru yn apelio ar arddwyr yng Nghymru i dorri gwair eu lawntiau ychydig yn llai aml eleni gan gadw glaswellt yn hirach ar gyfer bywyd gwyllt yr haf hwn.

Mae’r elusen bywyd gwyllt eisiau i arddwyr wybod bod lawntiau â mwy o wair yn “gartref gwerthfawr” ac yn “ffynhonnell fwyd” i adar a chreaduriaid eraill.

Cam llesol arall, yn ôl yr elusen, yw gadael rhai o’r blodau gwyllt sy’n tyfu mewn lawntiau gan eu bod yn ffynhonnell ychwanegol o fwyd a neithdar ar gyfer y gwenyn.


Torri’n ‘llai aml’

“Mae neges yr RSPB yn syml : torrwch eich lawntiau ychydig llai aml. A phan rydych chi’n gwneud, ceisiwch sicrhau nad yw’r glaswellt yn rhy fyr,” meddai Leanne Cuff o RSPB Cymru.

“Mae pobol o hyd yn gofyn i ni beth fedran nhw wneud i helpu bywyd gwyllt yr adeg hon o’r flwyddyn. Un o’r mesurau hawsaf a mwyaf buddiol ydi torri gwair yn llai aml.”

Hyd yn oed os oes angen lawnt ychydig yn fyrrach ar gyfer anifeiliaid anwes neu blant, mae gadael darn bach o lawnt heb ei dorri yn gwneud “gwahaniaeth mawr” i fyd natur, meddai RSPB Cymru.

Mae mwydod a phryfed yn debygol o fwydo yn y gwair, gan greu mwy o fwyd i’r adar.

Ymylon Ffyrdd

Mae’r RSPB hefyd yn apelio ar gynghorau lleol i adael ymylon ffyrdd a’r blodau gwyllt sydd ynddynt i dyfu am fwy o amser.

“Mae ochrau ffyrdd yn gyfoeth o flodau gwyllt fel dant y llew ar hyn o bryd ac maen nhw’n rhoi neithdar gwerthfawr i’r gwenyn,” meddai Leanne Cuff.

“Efallai bod cynghorau lleol a thirfeddianwyr yn meddwl eu bod nhw’n ’tacluso’ wrth dorri gwair, ond mae’n bosibl eu bod nhw’n dinistrio bwyd gwerthfawr ar gyfer llawer o greaduriaid gwyllt. R’yn ni’n eu hannog nhw i dorri’n llai aml.”