Tommie Collins fu’n cwbwlhau ‘Marathon y byd beicio’…


Tommie Collins a'i feic

Ia, can milltir ar feic mewn un diwrnod! Mae’n swnio yn andros o bell i rai ond y gyfrinach yw ymarfer.

Mae can milltir yn garreg filltir yn y byd beicio, fel marathon yn y byd rhedeg.

Fe brynais i fy meic cyntaf ym 1993, o siop ym Mhort. Roedd yn Raleigh M Trax, £350 ac roeddwn i’n talu yn fisol.

I ddweud y gwir dwi ddim yn cofio fy nghan milltir gyntaf, dim ond gofio taith o ryw 50 milltir i Ddolgellau ac yn ôl.  Yn 1998, ar ôl gwylio’r Tour de France yn gyson, fe ddisgynais i mewn cariad â beics Bianchi, lliw ‘celeste green’.   Roedd ‘Il Pirata’, sef Marco Pantani, yn defnyddio Bianchis ac enillodd y Tour ar un.

Felly fe es i Gaer i’r siop Bike Factory – roedd fel bod yn blentyn mewn siop da das!. Gwariais i £500 y tro yma.  Bianchi racing sprint roedd o. Nefoedd, roeddwn i wedi gwirioni â fo.

Yn 2002 fe wnes i benderfynu wneud yr Etape. Roedd trefnwyr y TDF wedi gweld cyfle i farchnata’r tour wrth greu’r Etape, sef cyfle i rasio ar hyd un cymal o’r tour. Erbyn heddiw mae mor boblogaidd mae tua 8000 yn cymryd rhan.

A dweud y gwir, y wraig roedd y bai. Dw i’n cofio iddi ddweud “neu di byth ei wneud o”.  Roedd y geiriau yna yn ddigon i ysbrydoli unrhyw ddyn.  Roedd rhaid gwisgo helmed yn yr Etape, a dwi ddim yn credu mewn gwisgo un (dim ond tair gwaith ydw i erioed wedi gwneud, ac alla’i ddim ei oddef). Ond eto mae honno’n ddadl arall tydi! Ta waeth, fe orffenais i’r Etape mewn wyth awr a hanner.

Ar y pryd roedd beicio yn cael ei hyrwyddo ym mhob man, a dynion a merched yn mentro i gystadlu mewn her o’r enw ‘ Sportives’, sef taith o tua can milltir. Mae’n costio i gymryd rhan ynddynt ond mae yna fwyd a diod ar gael ac rydych chi’n cael gwybod eich amser wedyn.

Dwi wedi gwneud un yn Iwerddon, un yn Lloegr a dwy yng Nghymru. Ar ôl eu gorffen nhw mae yna ryw deimlad rhyfeddol o lwyddo.

Bob blwyddyn rydw i’n ceisio seiclo o leiaf 100 milltir ddim hwyrcah na mis Ebrill.

Y cynllun y flwyddyn yma yw beicio ar draws gwahanol ardaloedd ym Mhrydain. Mae’n cymryd rhwng chwech ac wyth awr i rywun o fy ffitrwydd i.  Amser ar y beic yw hwn, cofiwch – rhaid gadael amser ychwanegol i stopio am baned, toiled a phethe.

Fe fydda i yn ceisio peidio stopio yn rhy hir, achos mae’n gallu ei gwneud hi’n anoddach dechrau yn ôl wedyn.  Mae yna berygl hefyd bod yn orlawn o fwyd a theimlo wedi blino wrth ail ddechrau. Wrth gwrs rhaid cofio dim ras yw hi, mynd yn ddow dow de, mwynhau’r golygfeydd godidog o’ch gwmpas, tynnu lluniau, siarad a mwydo pobol. Hwyl ydi o fod.

Y cyflymaf ydw i wedi cwbwlhau cant milltir ydi pum awr a 50 munud. I  Flaenau, ac wedyn yn ôl ac ymlaen i Nantmor dair gwaith – ydi, mae’r lon yn wastad!  Beth sydd rhaid ei gofio ydi bod angen adeiladu dros amser i’r cant milltir. Byddai yn hurt ceisio gwneud cant yn syth. Rhaid anelu at wneud pumdeg yn gyntaf, wedyn saithdeg, ac yna’r cant. Mae amser ar y beic yn amser i feddwl hefyd.

Mae beiciwr o ddifri yn gallu gwneud cant mewn tua phedair awr, ia, mynd fel ffyliaid a gweld dim, ond eto cystadlu maen nhw. Beth am fwyd? Y diwrnod o’r blaen fe yfais i bedwar potel o ddŵr 500ml â tablet disychiad yn y dŵr, tri gel egni, dau damaid o gacen soreen, un fflap Jack a dau far grawnfwyd. Roedd hon yn daith galed ac roedd yn ddiwrnod poeth.

Wnes i ddechrau ym Mhorthmadog ac wedyn i Ddolgellau, a troi i lawr yr allt uwchben Tal-y-llyn. Roedd y llyn yn edrych yn syfrdanol.

Roedd taith eithaf caled wedyn i Gorris, ond wedyn mae ’na bum milltir i lawr allt i Fachynlleth.

Mi wnes i droi wedyn am Aberdyfi a Thywyn. Ar ôl Bryncrug roeddwn i’n beicio ar ochr lein rheilffordd cambrian â’r môr wrth fy ochr. O’r diwedd fe gyrhaeddais i Lanelltyd, ble y cefais seibiant o ryw ddeng munud, achos roedd fy nhraed yn brifo cymaint.  Mae’r tywydd poeth yn gwneud iddyn nhw chwyddo. Roedd y darn olaf yn boenus oherwydd y tywydd, yn enwedig yr allt heibio coedwig Coed-y- Brenin, ond mae genny i ddigon o brofiad i ddioddef y poen.

Roedd dod i lawr allt Minffordd a gweld Y Cob yn deimlad braf iawn. Ar ôl gorffen roedd rhaid ddechrau’r broses o adfer. Mae’n bwysig llyncu bwyd a diod am yn yr ugain munud ar ôl gorffen, er mwyn i’r corff ddechrau dod ato’i hun.