Rhiannon Michael sy’n edrych ar y refferendwm dros fwy o bwerau i’r Cynulliad…

Mae’r Prif Weinidog wedi galw ar yr Ysgrifenydd Gwladol i gynnal y refferendwm fis Hydref. Tra bod Peter Hain yn saff yn Gwydir House, mynnu bod “pob opsiwn yn agored” o ran cynnal y refferendwm wnai Carwyn. Gyda Cheidwadwraig bellach yn cadw sedd yr Ysgrifenydd Gwladol yn gynnes mewn clymblaid Ryddfrydol-Geidwadol, mae wedi newid ei diwn. Mae newydd ryddhau datganiad i’r wasg yn pwyso am refferendwm yn yr hydref. Mae hyd yn oed wedi awgrymu geiriad i’r cwestiwn. Mae fel a ganlyn:

“Ar hyn o bryd mae’r Cynulliad yn cael deddfu ar rai pethau, ond nid ar bethau eraill, sy’n effeithio ar bobl Cymru yn unig.

Mae Senedd y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y dylai’r Cynulliad gael deddfu ar bopeth sy’n ymwneud â meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru. Ond dim ond os bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cefnogi hynny mewn refferendwm y gall hynny ddigwydd.

Mae’r meysydd sydd wedi’u datganoli yn cynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, tai, addysg a llywodraeth leol. Ni fyddai modd i’r deddfau ymwneud â nawdd cymdeithasol, amddiffyn a materion tramor.

Ydych chi am i’r Cynulliad gael y pŵer yn awr i ddeddfu ar yr holl feysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru?

Ydw / Nac ydw

Gyda’r Comisiwn Etholiadol yn mynnu bod rhaid iddyn nhw gael 10 wythnos i brofi’r cwestiwn ar yr etholwyr, mae’n dynn iawn i gynnal refferendwm yn yr hydref. Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi pwyso ar Peter Hain i symud yn gynt cyn yr etholiad, ond wnaethon nhw ddim. Yw hyn yn arwydd bod Llafur yng Nghymru, heb hualau Llafur mewn llywodraeth yn Llundain, yn mynd i fod yn fwy heriol o hyn ymlaen?