Rhiannon Michael sy’n ymateb i’r newyddion na fydd Jenny Randerson yn sefyll yn Etholiad Cynulliad 2011…
Fydd Jenny Randerson ddim yn sefyll i gael ei hethol fel AC Canol Caerdydd y flwyddyn nesaf. Hi yw cynrychiolydd y sedd i’r Democratiaid Rhyddfrydol ers 1999 ac mae’n dweud iddi wneud y penderfyniad ers ychydig fisoedd ond ei bod am aros cyn cyhoeddi tan ar ôl yr etholiad cyffredinol. Tybed a fyddai hi wedi gwneud penderfyniad gwahanol pe bai hi wedi cael ei hethol fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn lle Kirsty Williams? Mae sedd Canol Caerdydd yn un saff i’r Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n codi’r cwestiwn pwy fydd yn cael y wobr o’r sedd honno? Mae Dominic Hannigan, ymchwilydd Jenny Randerson, wedi bod yn ymgyrchu’n galed ond heb lwyddiant i gynrychioli De Caerdydd a Phenarth yn San Steffan a Bae Caerdydd. A fydd e eisiau cymryd y baton oddi ar ei fos? Un arall sy’n prysur wneud ei enw fel Democrat Rhyddfrydol brwd yw prif swyddog y wasg y Democratiaid Rhyddfrydol, Myrddin Edwards. Ers peth amser, fe sydd wedi bod yn cymryd cyfweliadau Cymraeg y Dems Rhydd, nid y dihafal Eleanor Burnham.
Ond gyda’r cyhoeddiad mae ail Ddemocrat Rhyddfrydol yn gadael y nyth. Mae Mick Bates, sydd ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad gan yr heddlu ac wedi colli chwip ei blaid yn y cyfamser, eisoes wedi dweud na fydd yn ceisio cael ei ail-ethol ym Maldwyn yn 2011. A fydd y cyn arweinydd Mike German yn gwneud cyhoeddiad yn fuan ei fod ef hefyd yn mynd yn 2011? Os felly, bydd meinciau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych yn wahanol iawn ar ôl yr etholiad nesaf.