Mae Rhys Llwyd yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyn-warden yn Neuadd John Morris Jones. Ef yw Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae wedi bod yn ymgyrchu am fwy o addysg Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru ers wyth mlynedd…
Llynedd cyhoeddwyd cyfrol gan David Roberts, Cofrestrydd Prifysgol Bangor, yn adrodd hanes ei brifysgol ar achlysur dathlu ohoni ei phen-blwydd yn 125 oed.
Mae’r gyfrol yn nodi’n fanwl y cyfnod trist, tywyll hwnnw dan brifathrawiaeth Charles Evans, a adnabyddir erbyn hyn fel cyfnod yr ‘ehangu’ pan welwyd y Brifysgol, ar y naill law’n ‘tyfu’ a datblygu ond ar y llaw arall yn pellhau fwy fwy oddi wrth gymunedau Cymraeg gogledd Cymru.
Y cymunedau hynny a phobol y cymunedau hynny a’u hadnoddau prin a roddodd fodolaeth iddi yn y lle cyntaf.
Cyfnod o brotestio brwd ydoedd a wrthwynebai nid yn unig yr ehangu bygythiol ond hefyd yr erydu a brofwyd yng Nghymreictod y sefydliad.
Ond o ganlyniad i’r protestio ac ymrwymiad rhai unigolion o blith staff a llywodraeth y Brifysgol, daeth tro ar fyd ac erbyn troad y mileniwm yr oedd llawer o arweinwyr y Brifysgol yn Gymry egwyddorol ac roedd Bangor ar flaen y gad wrth ddatblygu addysg Gymraeg yn y sector uwch.
Gorffwys ar y rhwyfau
Ond bu gorffwys difrifol ar y rhwyfau er 2000 a esgorodd ar benderfyniadau a datblygiadau difäol. Bu llawer o’r penodiadau pwysig o fewn y Brifysgol yn rhai di-Gymraeg ac yn dilyn ymddeoliad yr Is-Ganghellor yn hwyrach eleni, David Roberts y Cofrestrydd fydd yr unig Gymro Cymraeg ei iaith a fydd yn dal swydd uchel o fewn Prifysgol Bangor.
Mae’n drist nodi felly nad oedd hi, mewn gwirionedd, yn syndod i lawer o Gymry’r Brifysgol glywed na fyddai awdurdodau’r Brifysgol yn nodi bod dwyieithrwydd yn gymhwysedd angenrheidiol i olynydd Merfyn Jones.
Dadl anghyfrifol
Y ddadl anghyfrifol, yn ôl pob tebyg yw bod angen i Fangor fedru denu y “person gorau posib” ac felly rhaid wrth dderbyn ceisiadau gan unigolion di-Gymraeg.
Mynnwn ofyn y cwestion i awdurdodau’r Brifysgol sut ar wyneb daear y medrir penodi’r person “gorau posib” i Fangor a hwnnw neu honno heb fedru’r Gymraeg a’r Saesneg? Y mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn gymhwysedd hanfodol i Is-ganghellor Bangor.
Cau adrannau
Cysgod arall dros Fangor ar hyn o bryd yw’r bygythiad i ddyfodol pump o’r adrannau. Y mae lle cryf i amau mai ymarferiad PR yn unig yw pwrpas gohirio’r penderfyniad am flwyddyn gan fod y ddaeargryn eisoes wedi’i phenderfynu a’i threfnu.
Yr adrannau sydd dan fygythiad ydy’r Adran Ddaearyddiaeth, yr Adran Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, yr Adran Ieithoedd Modern, yr Adran Gwyddorau Cymdeithas a’r Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol.
O safbwynt y Gymraeg a Chymreictod Prifysgol Bangor fe fyddai cau’r adrannau hyn yn danchwa. Tybed a oedd yr awdurdodau’n ymwybodol fod oddeutu 20% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor yn yr adrannau sydd dan fygythiad? O neilltuo’r Adran Addysg a’r Adran Gymraeg o’r darlun, y mae’r ffigwr yn nes at 40%.
Mewn gair, byddai cau’r adrannau hyn yn golygu cwymp syfrdanol yn nifer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor. Mae’n debyg bod yr Uwch Reolwyr yn mynnu y byddai ail-strwythuro’n datblygu yn hytrach na lleihau dysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y sefydliad, ond siarad gwag anghyfrifol yw hyn gan nad oes ganddynt strategaeth ar gyfer dysgu Cymraeg o gwbl.
Ymhellach gellir nodi fod yr Adran Gwyddorau Cymdeithas a’r Adran Ddiwinyddiaeth yn cynnig rhywbeth unigryw a thra phwysig i’r sector addysg uwch. Dyma’r unig adrannau o’u math yng Nghymru sy’n dysgu’r cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â chyflawni gwaith ymchwil Cymraeg a Chymreig unigryw, pwysig a safonol.
Prif ddarparwr presennol addysg Gymraeg y sector yw Bangor ac felly mewn cyfnod lle mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ar lefel genedlaethol i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg, mater o bryder mawr yw gweld y prif ddarparwr yn prysur fynd i gyfeiriad arall.
Chwalu cymuned
Ond nid ymhlith gosgorddion coridorau academaidd y Brifysgol y mae’r pryderon yn cyniwair, ond hefyd ymhlith ei fyfyrwyr Cymraeg sy’n dra anhapus ynghylch y broses o geisio canfod cartref newydd i Neuadd John Morris Jones. Nifer o fflatiau a gynigwyd ac nid neuadd gymunedol newydd. Afraid dweud y byddai’r datblygiad hwn yn chwalu cymdeithas Gymraeg gyfan, cymdeithas a fu’n rhan anhepgorol o Brifysgol Bangor ers yr 1970au.
Daw hyn hefyd yn wyneb ansicrwydd ynglŷn â dyfodol yr arian a dderbynia Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) gan y Brifysgol i gyflogi Llywydd annibynnol.
Dyma sydd wedi arwain y myfyrwyr felly, gyda chefnogaeth bersonol llawer o ddarlithwyr, i deimlo fod yn rhaid gwneud rhywbeth. Y cam cyntaf yw llunio siarter o’n gofynion i’r Brifysgol ac ymysg pethau eraill bydd y siarter yn galw ar y Brifysgol i roi.
Gofynion y Siarter
- Addewid na fydd cau adrannau yn effeithio ar ddysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.
- Addewid y bydd y Brifysgol yn penodi Is-Ganghellor sy’n gwbl ddwyieithog ynghyd ac unrhyw benodiadau uchel a strategol eraill yn y dyfodol.
- Addewid y bydd y Brifysgol, mewn partneriaeth gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg arfaethedig, yn llunio strategaeth glir i ddatblygu ac nid dim ond i warchod addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg yn y sefydliad.
- Addewid i warchod a hyrwyddo bywyd cymunedol a chymdeithasol myfyrwyr Cymraeg Bangor.
- Addewid y bydd y Brifysgol yn llunio cynllun iaith gryfach ac yn cadw iddi.
Byddwn yn dwyn pwysau ar Dîm Rheoli’r Brifysgol ynghyd â’r Cyngor i dderbyn y siarter ac ymrwymo iddi. Ond os mai parhau i anwybyddu’r Cymry a dilyn llwybr strategol union fel petai Prifysgol Bangor yng nghanolbarth Lloegr y byddant, yna rhagwelir cyfnod eto o brotestio yn dod i ran Prifysgol Bangor.
Tybed a gadwodd fy nhad y placardiau hynny a oedd yn amlwg ym mhrotestiadau Bangor ar ddiwedd y saithdegau a dechrau’r wythdegau, pan wynebodd yntau a’i gyd-Gymry yr un bygythiad i’w bodolaeth fel Cymry?