Eluned Owena Evans o Fenter Iaith Patagonia sy’n sôn am y profiad o fynd i wlad arall i ddysgu Cymraeg…
¡Hola! ¿Cómo estás? Rydw i wedi bod yn byw ac yn gweithio yn yr Andes ers rhyw 10 wythnos bellach. Ar ôl cyfweliad gyda’r Cyngor Prydeinig yng Nghaerdydd fis Tachwedd y llynedd, fues i’n ddigon ffodus i gael fy newis yn un o dair i ddod yma i Batagonia i ddysgu Cymraeg yn Esquel a Trevelin ac i weithio fel Swyddog i Fenter Patagonia.
Yn dilyn ymweliad â Dyffryn Camwy lle mae’r ddwy athrawes arall wedi ymgartrefu, teithiais ar y Coche Cama ar draws y Paith i Esquel, sydd rhyw 1,200 o filltiroedd i’r De o Buenos Aires. Roedd hi’n daith o wyth awr, ond dyma beth oedd steil – fyddech chi ddim yn cael stecen a llond bola o bwdin reis ar fws nôl yng Nghymru! Rydw i’n byw yn y fflat sy’n sownd i Ysgol Gymraeg yr Andes yma yn Esquel. Gan ei fod reit yng nghanol y dre mae’n gyfleus iawn (ac efallai’n rhy gyfleus i’r gwaith)! Mae’r adeiladau yma wedi cael eu gosod mewn blociau ac nid strydoedd – cymysglyd tu hwnt i ddechrau, ond does dim eisiau map arna i ragor!
Rydw i wedi cael sawl profiad bythgofiadwy yn barod. Yn Buenos Aires, cafodd Helen, Llinos a fi wahoddiad i gael tê gyda Shân Morgan, Llysgennad Prydain. Roeddwn i’n teimlo allan o le yng nghanol y chandeliers a’r lluniau enfawr o Winston Churchill a’r Frenhines! Profiad gwahanol arall oedd mynychu Cymanfa Ganu mewn capel bach yng nghanol y Paith – ar wahân i ambell i emyn Sbaeneg, y mosgitos a oedd yn fy mhigo’n ddibaid a bîps negeseuon tecst, fe allwn i fod wedi bod yng Nghapel Newydd Llanddarog!
Heb os, rydw i wedi cael croeso arbennig yma ac mae pawb wedi mynd allan o’u ffordd i ‘ngwneud i deimlo’n gartrefol. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael tri parti croeso yma yn ogystal â sawl asado. Dished ar ôl dished o dê, bara menyn, caws, jam cartref, sgons, tarten afalau, cacen ddu, bisgedi dulce de leche, empanadas – rhaid profi popeth wrth gwrs! Lwcus ‘mod i’n un sy’n hoffi’i bwyd (cig yn enwedig), er mae’n anodd dod i arfer â bwyta mor hwyr yn y nos!
Pan nad wyf i’n gweithio, rwy’n canu yng Nghôr Seion Esquel a rydw i hefyd wedi dechrau mynychu dosbarthiadau dawnsio gwerin a Salsa. Gyda’r Parque Nacional Los Alerces ar stepen y drws, golygfeydd godidog ym mhob cyfeiriad a bywyd gwyllt heb ei ail, rydw i wrth fy modd yn mynd i gerdded yn ystod y penwythnosau. Wel, mae’n rhaid gwneud rhywbeth i dreulio’r holl fwyd rwy’n ei fwyta!
Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe fyddaf yn rhoi blas i chi ar fywyd yma yn yr Andes. Bydd nifer o drigolion Esquel/Trevelin a’r cyffiniau yn cyfrannu at ein blog hefyd. Mae digon o bethau wedi bod yn digwydd yma yn ystod yr wythnosau diwethaf gan gynnwys Eisteddfod Ddwl yn Esquel, Rally de los Alerces ac Eisteddfod Trevelin – fe gewch chi hanes Eisteddfod Trevelin gan Isaías Grandis yr wythnos nesaf. Ddydd Gwener diwethaf, cefais fy newis i ddal baner Cymru mewn seremoni yn Ysgol 18 (sydd bellach yn amgueddfa hanesyddol), Pentre Sydyn, yn nyffryn yr Afon Gyrraints. Roedd cyfarfod cyffredinol yn Ysgol 18 ar Ebrill 30ain 1902 gyda’r Comisiwn Ffiniau. Yn wir, bu ymgecru ynglŷn â’r ffiniau rhwng Ariannin a Chile am flynyddoedd gyda’r naill wlad a’r llall yn mynnu mai hwy oedd biau’r tiroedd ffrwythlon yn ardal Cwm Hyfryd. Gan nad oedd y llywodraethau yn medru dod i gytundeb penderfynwyd, yn y diwedd, ofyn i’r trigolion lleol – y Cymry yn bennaf – ddewis i ba wlad oedden nhw am berthyn. Syr Thomas Holdich oedd arolygydd Prydain, Francisco Pascasio Moreno dros yr Ariannin a Dr. Balmaceda dros Chile. Roedd ateb y Cymry yn unfrydol. O ganlyniad, y diwrnod hwnnw, ychwanegwyd 360,000 hectar o dir ffrwythlon i diriogaeth yr Ariannin. Y mae diwrnod y bleidlais hon yn cael ei gofio a’i ddathlu bob blwyddyn ar Ebrill 30ain. Braint ac anrhydedd ydoedd i mi, felly, gael bod yn rhan o’r seremoni hon a oedd yn wledd i’r glust a’r llygaid.