5.55pm: Dyna ni, felly. Dy’n ni’n dal ddim callach ynglŷn â phwy fydd yn ffurfio’r llywodraeth nesaf. Fel yr oedd y polau piniwn yn ei awgrymu cyn yr etholiad y Ceidwadwyr fydd y blaid fwyaf mewn Senedd Grog. Dydyn nhw heb ennill y seddi anodd eu cyrraedd, yng Nghymru nac ar draws Prydain. Mae Llafur wedi bod yn hynod o wydn, yn fwy na’r disgwyl yng Nghymru a’r Alban.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael noson siomedig yng Nghymru, yn bennaf am eu bod nhw wedi colli Maldwyn – er bod y canlyniad anhygoel yng Ngheredigion yn awgrymu fod ganddyn nhw gadarnle newydd yng Nghanolbarth Cymru. Ond dros Brydain gyfan mae Cleggmania, a’u breuddwyd o wthio Llafur i drydydd, wedi disgyn braidd yn fflat.

Mae’r wlad wedi pleidleisio, a’r oll allen ni ei wneud nawr yw eistedd yn ôl a gwylio wrth i’r pleidiau drafod ymysg ei gilydd pwy ddylai ffurfio’r llywodraeth nesaf. Mae yna sïon bod y Blaid Lafur eisoes wedi dechrau trafod gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol. Bydd y Ceidwadwyr wrth gwrs yn honni mai nhw yw’r blaid fwyaf, ac felly nhw mae pobol Prydain eisiau ei weld yn ffurfio’r llywodraeth nesaf.

Yr unig sicrwydd yw na fydd unrhyw gwestiynau yn cael eu hateb am ychydig oriau, os nad dyddiau, eto. Bore da!

5.43am: Mae tudalennau blaen papurau newydd heddiw wedi eu rhyddhau. Dydyn nhw ddim yn taflu unrhyw oleuni newydd ar bwy fydd y Prif Weinidog nesaf – mae pob un yn dibynnu ar ganlyniadau  pôl piniwn BBC, ITV a Sky News am 10pm neithiwr.

5.36am: Yn ôl Sky News mae’r cyn ysgrifennydd cartref David Blunkett wedi dweud y “dylai’r Ceidwadwyr gael llywodraethu” am eu bod nhw wedi ennill yr etholiad.

5.34am: Richard Wyn Jones yn dweud ar S4C fod Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, wedi bod yn “drychinebus o wael” yn ystod yr ymgyrch.

5.31am: Dyna ni’r sedd olaf o Gymru felly. Pe bai Julie Morgan wedi ei chadw hi fe fyddai’n noson wych i Lafur yng Nghymru. Gyda’r fuddugoliaeth honno mae’n noson weddol dda i’r Ceidwadwyr, ond ddim cystal ag yr oedd rhai yn y blaid yn gobeithio amdano.

Ar lefel Brydeinig mae’r darlun yn dechrau dod yn gliriach. Yn ôl Betfair mae yna sicrwydd 95% y bydd yna Senedd Grog. Yng Nghymru ac ar lefel Brydeinig mae’r Ceidwadwyr wedi ennill y seddi sydd eu hangen arnyn nhw i fod y blaid fwyaf ond ddim y seddi sydd eu hangen er mwyn sicrhau mwyafrif.

5.24am: Gogledd Caerdydd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
John Dixon Democratiaid Rhyddfrydol 8,724
Jonathan Evans Ceidwadwyr 17,860
Lawrence Gwynn Plaid Annibyniaeth y DU 1,130
Julie Morgan Llafur 17,666
Llywelyn Rhys Plaid Cymru 1,588
Derek Thomson Y Blaid Gristnogol 300
Christopher von Ruhland Green 362

5.18am: Y Ceidwadwyr – 17,860, Llafur – 17,666!

5.17am: Jonathan Peter Evans yn talu teyrnged i Julie Morgan gan ddweud ei fod o wedi bod yn “frwydr hynod anodd i’r Ceidwadwyr gipio’r sedd o ddwylo Llafur”.

5.15am: Mae’r Ceidwadwyr wedi cipio Gogledd Caerdydd… Jonathan Peter Evans wedi cipio sedd Julie Morgan. Ond roedd hi’n llawer agosach na’r disgwyl.

5.12am: Mae Cyngor Caerdydd wedi trydar y bydd canlyniad olaf Cymru, Gogledd Caerdydd, yn cael ei gyhoeddi mewn pum munud.

5.09am: Mae Gordon Brown wedi cyrraedd Llundain, gan ddweud mai ei ddyletswydd fel Prif Weinidog yw sefydlu llywodraeth gref. Mae hynny’n awgrymu ei fod o o leiaf am geisio clymbleidio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.

5am: Cyfle i edrych yn ôl ar y seddi oedd disgwyl iddyn nhw newid dwylo.

Dyma’r seddi oedd disgwyl iddyn nhw gael eu cipio

Aberconwy – Llafur > Ceidwadwyr wedi llwyddo i gipio

Blaenau Gwent – Annibynol > Llafur wedi llwyddo i gipio

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro – Llafur > Ceidwadwyr wedi llwyddo i gipio

Bro Morgannwg – Llafur > Ceidwadwyr wedi llwyddo i gipio

Gorllewin Abertawe – Llafur < Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu a chipio

Ynys Mon – Llafur < Plaid wedi methu a chipio

Dyma’r seddi oedd yn dynn

Maldwyn – Democratiaid Rhydffrydol > Ceidwadwyr wedi llwyddo i gipio

Ceredigion – Democratiaid Rhyddfrydol < Plaid wedi methu a chipio

Wrecsam – Llafur < Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu a chipio

Gorllewin Caerdydd – Llafur < Ceidwadwyr wedi methu a chipio

Arfon – Plaid Cymru < Llafur wedi methu a chipio

Brycheiniog a Sir Faesyfed – Democratiaid Rhyddfrydol < Ceidwadwyr wedi methu a chipio

Pen y Bont ar Ogwr – Llafur < Ceidwadwyr wedi methu a chipio

Delyn – Llafur < Ceidwadwyr wedi methu a chipio

Llanelli – Llafur < Plaid wedi methu a chipio

Dwyrain Casnewydd – Llafur < Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu a chipio

Gorllewin Casnewydd – Llafur < Ceidwadwyr wedi methu a chipio

Dyffryn Clwyd – Llafur < Ceidwadwyr wedi methu a chipio

4.52am: Ed Balls, aelod o Gabinet Gordon Brown, wedi ei ail ethol. Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cipio sedd Charles Clarke, y cyn ysgrifennydd cartref.

4.47am: Canlyniad Gogledd Caerdydd mewn rhyw ddeg munud, meddai Dr Dylan Jones-Evans ar S4C. Mae’n dweud bod y Ceidwadwyr ar y blaen ar hyn o bryd.

4.43am: “Mae’n llawer rhy gynnar yn y bore i ddweud beth yw’r cam nesaf nawr,” meddai Carwyn Jones ar S4C. Mae’n rhybuddio’r Ceidwadwyr yn erbyn ffurfio llywodraeth leiafrifol.

“Byddai etholiad arall yn yr hydref yn effeithio ar amseriad y refferendwm [ar fwy o bwerau i’r Cynulliad],” meddai wedyn.

4.37am: Mae’r cyn Ysgrifennydd Cartref Jacqui Smith wedi colli ei sedd yn Redditch i’r Ceidwadwyr.

4.35am: Carwyn Jones ar S4C yn “bles iawn i weld Blaenau Gwent yn dod yn ôl i ni”. Dywedodd fod yna sylfaen cryf i adeiladu tuag at Etholiad y Cynulliad.

4.31am: Mae’r unig ymgeisydd annibynnol arall yn San Steffan, Richard Taylor, wedi colli ei sedd. Dai Davies o Llais y Bobol Blaenau Gwent yw’r llall.

4.29am: Preseli Penfro

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Stephen Crabb Ceidwadwyr 16,944
Henry Jones-Davies Plaid Cymru 3,654
Richard Lawson Plaid Annibyniaeth y DU 906
Mari Rees Llafur 12,339
Nick Tregoning Democratiaid Rhyddfrydol 5,759

4.28am: Canran y bleidlais ar draws Cymru: Llafur – 36%, Ceidwadwyr – 26%, y Democratiaid Rhyddfrydol – 20%, Plaid Cymru – 12%.

4.25am: Mae Llafur wedi cael noson dda yn yr Alban hefyd, gyda 36 sedd. Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol saith sedd a’r SNP chwe sedd ar hyn o bryd.

Fe allai hyn arwain at sefyllfa beryg, os yw’r Ceidwadwyr yn sicrhau mwyafrif yn Lloegr. Byddai’n  golygu y gallai ltwidraeth leafrifol Geidwadol wynebu gwrthwynebiad ar faterion sy’n effeithio ar Loegr yn unig gan ASau o du allan i’r wlad.

Fe allai sefyllfa o’r fath arwain yn y pen draw am alwadau i ‘ddatganoli Lloegr’ fel nad ydi ASau o du allan i’r wlad yn cael pleidleisio yno.

4.17am: Stephen Crabb o’r Blaid Geidwadol wedi ei ethol yn Preseli Penfro.

Dim ond un sedd ar ôl sydd heb ddatgan y canlyniad, sef Gogledd Caerdydd ble maen nhw’n gorfod ail gyfri’r pleidleisiau.

4.15am: Mae yna sïon bod Jacqui Smith wedi colli ei seddi yn Redditch i’r Ceidwadwyr.

4.10am: Beth yw’r farn ar Gymru felly? Llafur yw’r unig blaid fydd yn eithaf hapus gyda’r canlyniad, am eu bod nhw wedi cadw bron i bob sedd, gan gynnwys ambell un yr oedd disgwyl iddyn nhw eu colli.

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn hapus gyda Cheredigion ond yn siomedig iawn i beidio â chipio Gorllewin Abertawe ac o golli Maldwyn.

Tri Aelod Seneddol newydd i’r Ceidwadwyr, ond roedden nhw wedi gobeithio am lawer mwy nag hynny.

Bydd Plaid Cymru yn siomedig, ond mae’n bosib bod yna fai arnyn nhw am godi gobeithion yn ormodol. Dydyn nhw heb golli unrhyw seddi, ond drwy roi’r argraff eu bod nhw’n ffyddiog o ennill Ceredigion ac Ynys Môn mae’n ymddangos eu bod nhw wedi cael noson arbennig o wael.

4.02am: Caerffili

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Maria Caulfield Ceidwadwyr 6,622
Wayne David Llafur 17,377
Kay David Democratiaid Rhyddfrydol 5,688
Tony Jenkins Plaid Annibyniaeth y DU 910
Laurence Reid BNP 1,635
Lindsay Whittle Plaid Cymru 6,460

4am: Richard Wyn Jones ar S4C yn dweud “bod y Blaid Lafur Gymreig wedi cael noson rhyfeddol heno”.

Vaughan Roiderick yn dweud eu bod nhw wedi “ffeindio negeseuon sy’n taro tant gyda pobol Cymru”.

3.58am: Mwy gan Glyn Davies. “Rhaid i fi gyfaddef, ers yr ymchwydd yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol tair wythnos yn ôl doeddwn i ddim yn disgwyl ennill heno.

“Rhaid i fi gyfaddef, mae beth sydd wedi digwydd yn syndod. Ges i fy synnu pan ddes i yma a gweld ei fod o mor agos.

“Fy swydd i fory bydd dod i dermau gyda’r peth.”

3.56am: Gorllewin Caerfyrddin a Sir Benfro

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Nick Ainger Llafur 13,226
Ray Clarke Plaid Annibyniaeth y DU 1,146
John Dixon Plaid Cymru 4,232
John Gossage Democratiaid Rhyddfrydol 4,890
Simon Hart Ceidwadwyr 16,649
Henry Langen Annibynnol 364

3.55am: Y Ceidwadwyr yn cipio eu trydedd sedd, Gorllewin Caerfyrddin a Sir Benfro.

3.52am: Stori’r noson i Vaughan Roderick ar S4C yw’r ffaith bod Llafur wedi cadw “sedd ar ôl sedd” yr oedd disgwyl iddyn nhw eu colli, er bod eu pleidlais nhw wedi disgyn ar draws Cymru.

3.52am: Pontypridd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Ioan Bellin Plaid Cymru 2,673
David Bevan Plaid Annibyniaeth y DU 1,229
Lee Gonzalez Ceidwadwyr 5,932
John Matthews Gwyrdd 361
Simon Parsons Plaid Lafur Sosialaidd 456
Michael Powell Democratiaid Rhyddfrydol 11,435
Owen Smith Llafur 14,220
Donald Watson Y Blaid Gristnogol 365

3.51am: Dwyrain Abertawe

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Clive Bennett BNP 1,715
Christian Holliday Ceidwadwyr 4,823
Sian James Llafur 16,819
Dic Jones Plaid Cymru 2,181
David Rogers Plaid Annibyniaeth y DU 839
Robert Speht Democratiaid Rhyddfrydol 5,981
Tony Young Gwyrdd 318

3.50am: Cwm Cynon

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Juliette Ash Ceidwadwyr 3,010
Ann Clwyd Llafur 15,681
Dafydd Trystan Davies Plaid Cymru 6,064
Frank Hughes Plaid Annibyniaeth y DU 1,001
Lee Thacker Democratiaid Rhyddfrydol 4,120

3.49am: Mae yna ail gyfri yng Ngogledd Caerdydd. Arwydd arall bod y Blaid Lafur wedi gwrthwynebu’r Ceidwadwyr ychydig yn gryfach yng Nghymru na’r disgwyl.

Mae Llafur wedi cadw Rochdale, er gwaethaf ‘bigotgate’!

3.48am: Mae’r canlyniadau ar draws Prydain yn awgrymu bod y Ceidwadwyr yn gwneud yn eithaf da yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn ogystal â Maldwyn maen nhw wedi llwyddo i gipio sedd weddol saff Harrogate and Knaresborough.

Fe fydd y Ceidwadwyr angen bob sedd er mwyn sicrhau mwyafrif. Yn ôl Jeremy Paxman ar y BBC mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi dechrau trafod clymblaid.

3.43am: Torfaen

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Jonathan Burns Ceidwadwyr 7,541
Owen Clarke Green 438
Gareth Dunn Plaid Annibyniaeth y DU 862
Rhys ab Elis Plaid Cymru 2,005
David Morgan Democratiaid Rhyddfrydol 6,264
Paul Murphy Llafur 16,847
Jennifer Noble BNP 1,657
Richard Turner-Thomas Annibynnol 607
Fred Wildgust Annibynnol 1,419

3.42am: Mwy o ymateb Lembit Opik. “Rydw i wir yn siomedig fy mod i wedi colli. Doeddwn i ddim yn disgwyl y canlyniad yma a doedd fy nhîm i ddim chwaith.

“Mae’n amser trist i fi. Ar y llaw arall os wyt ti’n sefyll mewn gwleidyddiaeth mae’n rhaid ystyried dy fod ti’n gallu colli.”

3.39am: AC Llanelli Helen Mary Jones ar yr S4C: “Noson siomedig i ni. Dyn ni ddim wedi ennill tir ond dyn ni heb golli tir chwaith. Roedden ni’n gwybod ar ôl y ‘Clegg bounce’ bod Ceredigion yn mynd i fod yn broblem.”

3.38am: Brycheiniog a Sir Faesyfed

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Suzy Davies Ceidwadwyr 14,182
Janet Davies Plaid Cymru 989
Clive Easton Plaid Annibyniaeth y DU 876
Jeffrey Green Y Blaid Gristnogol 222
Christopher Lloyd Llafur 4,096
Lord Offa Monster Raving Loony Party 210
Dorienne Robinson Gwyrdd 341
Roger Williams Democratiaid Rhyddfrydol 17,929

3.37am: Gorllewin Caerdydd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Kevin Brennan Llafur 16893
Jake Griffiths Green 750
Mike Henessey Plaid Annibyniaeth y DU 1117
Rachael Hitchinson Democratiaid Rhyddfrydol 7186
Mohammed Sarul Islam Plaid Cymru 2868
Angela Jones-Evans Ceidwadwyr 12143

3.36am: Castell-nedd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
James Bevan Plaid Annibyniaeth y DU 829
Michael Green BNP 1,342
Peter Hain Llafur 17,172
Frank Little Democratiaid Rhyddfrydol 5,535
Alun Llewelyn Plaid Cymru 7,397
Emmeline Owens Ceidwadwyr 4,847

3.35am: Aberafan

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Captain Beany Annibynnol 558
Joe Callan Plaid Annibyniaeth y DU 489
Keith Davies Democratiaid Rhyddfrydol 5,034
Kevin Edwards BNP 1,276
Hywel Francis Llafur 16,073
Caroline Jones Ceidwadwyr 4,411
Paul Nicholls-Jones Plaid Cymru 2,198
Andrew Tutton Annibynnol 919

3.34am: Pen y Bont ar Ogwr

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Helen Baker Ceidwadwyr 11,668
David Fulton Plaid Annibyniaeth y DU 801
Madeleine Moon Llafur 13,931
Wayne Morgan Democratiaid Rhyddfrydol 8,658
Nick Thomas Plaid Cymru 2,269
Brian Urch BNP 1,020

3.33am: Rhondda

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Chris Bryant Llafur 17,183
Geraint Davies Plaid Cymru 5,630
Juliet Henderson Ceidwadwyr 1,993
Philip Howe Annibynnol 2,599
Taffy John Plaid Annibyniaeth y DU 358
Paul Wasley Democratiaid Rhyddfrydol 3,309

3.32am: Canol Caerdydd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Mark Beech Monster Raving Loony Party 142
Sam Coates Green 575
Susan Davies Plaid Annibyniaeth y DU 765
Alun Mathias Annibynnol 86
Jenny Rathbone Llafur 10400
Karen Robson Ceidwadwyr 7799
Ross Saunders Clymblaid Sosialaidd yr Undebwr Llafur 162
Jenny Willott Democratiaid Rhyddfrydol 14976
Chris Williams Plaid Cymru 1246

3.31am: Alun & Glannau Dyfrdwy

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Paul Brighton Democratiaid Rhyddfrydol 7,308
Will Gallagher Ceidwadwyr 12,885
James Howson Plaid Annibyniaeth y DU 1,009
Maurice Jones Plaid Cymru 1,549
Mark Tami Llafur 15,804
John Walker BNP 1,368