Ifan Morgan Jones sy’n rhoi ei sylwadau ar ddadl fawr arweinwyr y prif bleidiau neithiwr…
Wrth danio’r teledu neithiwr roeddwn i’n disgwyl y byddai’r ddadl gyntaf rhwng tair prif blaid gwledydd Prydain yn cadarnhau dau beth. Byddai Gordon Brown yn dangos y diffyg cyswllt gyda’r gynulleidfa, ac yn ychwanegu hoelen arall i’w arch etholiadol ei hun, abyddai David Cameron yn cau pen y mwdwl ac yn argyhoeddi pawb mai fo oedd Prif Weinidog nesaf Prydain.
Dair wythnos cyn yr etholiad, mae’r polau piniwn yn dangos nad yw’r cyhoedd ddim yn gwbwl gyfforddus gyda’r syniad o weld Cameron yn Rhif 10 Stryd Downing. Dyma oedd y cyfle perffaith ar ei gyfer o felly – y dyn PR yn erbyn dyn gyda charisma crwban y môr.
A bod yn onest wrth ddechrau gywlio’r rhaglen doeddwn i heb lawn ystyried cyfraniad Nick Clegg. Doedd ganddo ddim cyfle go iawn o fod yn Brif Weinidog ond fe fyddai ei adael o allan wedi corddi’r dyfroedd hyd yn oed yn fwy na’r penderfyniad i beidio â chynnwys Alex Salmond a Phlaid Cymru.
Ond does dim dadlau erbyn hyn mai’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd yr enillwyr mawr neithiwr. Yn rhannol oherwydd bod y blaid, am y tro cyntaf yn ei hanes, wedi cael yn union yr un faint o sylw ac yn union yr un faint o gyfle i ddweud eu dweud ’r pleidiau eraill. Yn rhannol hefyd oherwydd perfformiad sicr a hyderus eu harweinydd Nick Clegg.
Yn wahanol i’r ddau arweinydd arall roedd yn edrych i lygad y camera ac yn siarad gyda’r gwylwyr gartref. Roedd hefyd yn dweud i raddau helaeth beth yr oedd y cyhoedd eisiau ei glywed, yn enwedig wrth siarad am yr economi. Doedd y ddau arweinydd arall chwaith ddim yn rhoi amser caled iddo – wedi’r cwbwl, pe bai Senedd Grog, fe fyddai’n rhaid ystyried clymbleidio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.
O’r ddau arall, Gordon Brown oedd yn argyhoeddi fwyaf. Doedd yna ddim byd arbennig o gyffrous am yr hyn yr oedd o’n ei ddweud ond roedd hi’n amlwg ei fod o’n gwybod ei stwff ac yn gallu galw i gof y manylyn lleiaf. A dyna oedd ei neges yn y bôn – ei fod yn ddibynadwy, yn ddewis saff, ac y byddai’r Ceidwadwyr yn ein harwain ni at ddirwasgiad ‘double dip’ gyda’u toriadau. Mantais y Prif Weiniodog oedd nad oedd unrhyw un yn disgwyl iddo wneud yn dda, ac felly fe wnaeth o’n well na’r disgwyl.
Cameron gafodd y noson fwyaf siomedig. Roedd golwg nerfus ar ei wyneb drwy gydol y ddadl ac, o ystyried bod ymgyrch y Blaid Lafur wedi canolbwyntio cymaint ar faint o golur yr oedd o’n ei wisgo ar ei bosteri, doedd hi ddim yn syniad da ei fod o’n edrych fel rywbeth o Madame Tussauds.
Wedi dweud hynny fo oedd gryfaf ar rai o brif bynciau’r noson – sef mewnfudo a throsedd – a daeth y cwestiynau hynny’n gynnar yn y ddadl cyn i’r rhan fwyaf o wylwyr golli diddordeb a newid sianel. Roedd Brown yn gryfach erbyn diwedd y ddadl ond efallai bod mwyafrif y gynulleidfa yn eu gwelyau erbyn hynny.
Y broblem i Nick Clegg nawr yw fod yna ddwyddadl arall ar ôl, ac fe fydd y ddau arweinydd arall am ei waed o yn rheiny. Bydd rhaid disgwyl am y polau piniwn, a’r etholiad, i weld beth fydd yr effaith ar gefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond mae’n bosib mai ddoe oedd un o’r diwrnodiau mawr yn hanes y blaid, a bod Prydain bellach yn wladwriaeth dair plaid yn hytrach nag dwy.
Bydd y ddadl bwysica i ni – wrth gwrs – am 10.30 nos Sul pan fydd arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru yn wynebu ei gilydd ar Sky News.